Orm
Canon Awstinaidd a bardd yn yr iaith Saesneg Canol oedd Orm neu Ormin (blodeuai yn ail hanner y 12g) sydd yn nodedig fel awdur yr Ormulum.
Orm | |
---|---|
Ganwyd | 12 g Swydd Lincoln |
Bu farw | 12 g |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | gwyddonydd |
Blodeuodd | 12 g |
Adnabyddus am | Ormulum |
Yn y cyflwyniad i'r Ormulum, mae'r awdur yn awgrymu ei fod yn ganon rheolaidd o Frodyr Sant Awstin. Nid oes tystiolaeth o ba cabidwl fe'i perthynai iddo, ond mae tafodiaith ei benillion yn dangos ei fod yn hanu o dde Swydd Lincoln. Mae'n bosib felly iddo ysgrifennu'r Ormulum yn yr Abaty Arrouaisaidd yn Bourne, a sefydlwyd gan yr Awstiniaid ym 1138. Enw o darddiad Llychlynaidd yw Orm, neu Orrm fel y'i sillefir yn y cyflwyniad, ac mae'n bosib i'r ffurf arall Ormin ddatblygu trwy gydweddiad ag enwau megis Awstin.[1]
Llyfr o homilïau ar fydr, sydd yn ymwneud â'r Efengylau, yw'r Ormulum, sy'n tynnu ar weithiau Grigor Fawr, yr Hybarch Beda, a'r Abad Ælfric. Mae'r gwaith o ddefnydd mawr i ieithyddion hanesyddol am i'w awdur ddyfeisio orgraff hynod o gyson ar sail egwyddorion seinegol, er hwyluso ynganiad y geiriau i'r pregethwr wrth ei ddarllen.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) George Jack, "Orm [Ormin] (fl. c. 1175)", Oxford Dictionary of National Biography (2004). Adalwyd ar 23 Hydref 2022. Dolen PDF
- ↑ (Saesneg) Orm. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Hydref 2022.