Os Pinos

anthem genedlaethol

Os Pinos (Y Pinwydd) yw anthem genedlaethol Galisia.

Eduardo Pondal (1835-1917)

Ysgrifennwyd y geiriau gan Eduardo Pondal fel rhan o’i gerdd Queixumes dos pinos (Galarnad y Pinwydd) a’r alaw gan Pascual Veiga. Y ddau yn Cuba ble roedd llawr o bobl Galisiaidd wedi mudo. Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf yn 1907 yn Havana .[1]

Yn 1977 cafodd Os Pinos ei gydnabod gan awdurdodau Sbaen fel anthem swyddogol Galisia wedi marwolaeth yr unben ffasgiad Francisco Franco a oedd wedi rheoli'r wlad am 36 o flynyddoedd.[2]

Yn wahanol i lawr o anthemau cenedlaethol, mae’r holl benillion yn cael eu canu, nid dim ond y pennill cyntaf a’r cytgan fel anthem Cymru.

Mae’r pennill cyntaf yn yn hiraethau am arfordir, coed a thir glas y wlad. Ond mae penillion canlynol yn cyfeirio at “chwerwder” a “sarhad”. Trwy hanes mae pobl Galicia wedi dioddef tlodi enbyd ac wedi gorfod gadael eu gwlad am waith. Mae pobl Galicia a’i hiaith hefyd wedi’u hisraddoli gan awdurdodau Sbaen trwy’r ganrifoedd. Mae’r anthem yn datgan bod dim ond pobl “ffôl, gwyllt a'r pengaled, gwirion a thywyll, ddim yn ein deall ni”

Mae’r llinellau olaf yr anthem yn cyfeirio at Galisia fel ‘Cenedl Breogán’ ac yn galw am safiad er mwyn gwell ddyfodol. Roedd Breogán (Breoghan, Bregon neu Breachdan) yn gymeriad o fytholeg Geltaidd. Mae’r llyfr canoloesol Gwyddeleg Lebor Gabála Érenn[3] (Llyfr llafar Iwerddon) yn cyfeirio at Breogán yn yn teithio i Galisia a sefydlu tref Brigantia (dinas A Coruña heddiw).

Os Pinos Y Pinwydd
Que din os rumorosos

na costa verdecente,

ó raio transparente

do prácido luar?

Que din as altas copas

de escuro arume harpado

co seu ben compasado

monótono fungar?

Do teu verdor cinguido

e de benignos astros,

confín dos verdes castros

e valeroso chan,

non deas a esquecemento

da inxuria o rudo encono;

desperta do teu sono

fogar de Breogán.

Os bos e xenerosos

a nosa voz entenden,

e con arroubo atenden

o noso rouco son,

mais só os iñorantes,

e féridos e duros,

imbéciles e escuros

non nos entenden, non.

Os tempos son chegados

dos bardos das idades

que as vosas vaguidades

cumprido fin terán;

pois onde quer, xigante

a nosa voz pregoa

a redenzón da boa

nazón de Breogán.

Beth ydy'r sibrydion yn dweud,

ar yr arfordir glas

i'r pelydr tryloyw

o olau lleuad tawel?

Beth mae'r brigau uchel yn dweud

o ddail tywyll delynog

yn berffaith lle mae  

suo di-dor

O dy wyrddni tynn

ac o sêr diniwed,

draw i’r caerau gwyrdd

ac o'r tir dewr,

paid ag anghofio

chwerwder milain sarhad;

deffra o dy freuddwyd

cartref Breogán.

Y da a'r hael,

yn deall ein llais  

a chyda sylw dyfal

ein sain cryg,

ond y ffôl yn unig

a'r gwyllt a'r pengaled,

gwirion a thywyll,

ddim yn ein deall ni, na

Mae'r amseroedd wedi dod

o feirdd yr oesoedd

o dy niwl

daw dydd medrus diwedd;

Wir, ym mhobman, anferth

mae ein llais yn bloeddio

rhyddhad y da

Cenedl Breogán.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Os Pinos" (yn gl), Wikipedia, a enciclopedia libre, 2020-09-26, https://gl.wikipedia.org/w/index.php?title=Os_Pinos&oldid=5590341, adalwyd 2020-10-24
  2. Galicia, Xunta de (2009-01-10). "O himno". Xunta de Galicia (yn Galisieg). Cyrchwyd 2020-10-24.
  3. "Lebor Gabála Érenn" (yn en), Wikipedia, 2020-10-18, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Lebor_Gab%C3%A1la_%C3%89renn&oldid=984132599, adalwyd 2020-10-24