Ciwba
Gwlad yn Ynysoedd y Caribî yw Gweriniaeth Ciwba (Sbaeneg: República de Cuba). Lleolir Ciwba i'r de o'r Unol Daleithiau, i'r gorllewin o Haiti a'r Ynysoedd Turks a Caicos, i'r gogledd o Jamaica a'r Ynysoedd Caiman ac i'r dwyrain o Fexico. Ciwba yw'r ynys fwyaf ym Môr y Caribî. Y brifddinas yw La Habana (Havana).
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Fe Orchfygwn Angau neu Famwlad ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
Prifddinas | La Habana ![]() |
Poblogaeth | 11,484,636 ![]() |
Sefydlwyd | 20 Mai 1902 (annibyniaeth oddi wrth UDA) (datganiad) |
Anthem | La Bayamesa ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Manuel Marrero Cruz ![]() |
Cylchfa amser | UTC−05:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Santa Fe ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, America Sbaenig ![]() |
Arwynebedd | 109,884 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Unol Daleithiau America ![]() |
Cyfesurynnau | 22°N 79.5°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Pwer y Bobl ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Ciwba ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Miguel Díaz-Canel ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Ciwba ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Manuel Marrero Cruz ![]() |
![]() | |
![]() | |
Arian | peso (Ciwba), peso cyfnewidiol (Ciwba) ![]() |
Canran y diwaith | 3 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant | 1.615 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.769 ![]() |
HanesGolygu
Ceir pedwar cyfnod yn hanes Ciwba. Y cyntaf yw'r cyn-drefedigaethol tra oedd yr ynys yn perthyn i bobl Amerindiaid sef y Taíno a'r Ciboney. Yr ail gyfnod yw'r Giwba drefedigaethol, a ddechreuwyd ym 1492, efo dyfodiad Christopher Columbus arosodd yn goloni Sbaen, tan y rhyfel efo UDA y Rhyfel Sbaenaidd–Americanaidd ym 1898. Y trydydd cyfnod yw Gweriniaeth Ciwba, daeth annibyniaeth o ryw fath yn 1902, ond roedd milwyr UDA yn bresennol o leiaf unwaith bob degawd. Y pedwerydd cyfnod yw ers Chwyldro Ciwba ym 1959 a arweinwyd gan Fidel Castro pan ddaeth Ciwba yn weriniaeth sosialaidd.
Ciwba gyn-drefedigaetholGolygu
Ciwba drefedigaetholGolygu
1400auGolygu
- 1492 28 Hydref - Christopher Columbus yn glanio ar ddwyrain Ciwba.
- 1494 Columbus yn hwylio heibio'r ynys.
1500auGolygu
- 1508 Sebastián de Ocampo yn hwylio rownd yr ynys i gyd. Felly yn dangos ei bod hi'n ynys.
- 1510 Concwest o Giwba o ynys Hispaniola. (Haiti a'r Weriniaeth Dominican).
- 1511 Diego Velázquez de Cuéllar yn sefydlu dref Baracoa.
- 1512 Llosgi Hatuey arweinydd Indiaid (o Haiti yn wreiddiol).
- 1514 Sefydlu Havana.
- 1523 Ymerawdwr Siarl V yn cynnig 4,000 darn aur i hybu cynhyrchu cotwm.
- 1527 Caethion Du cyntaf yn cyrraedd.
- 1532 Gwrthryfel y Caethion Du cyntaf.
- 1537 Ffrancwyr yn cipio Havana.
- 1538 Ail wrthryfel y Caethion Du.
- 1555 Ffrancwyr yn cipio a dinistrio Havana.
- 1586 Y môrleidr Francis Drake yn glanio ger Cabo San Antonio
- 1597 Cwblhau Castillo del Morro ger harbwr Havana.
1600auGolygu
Twf araf mewn masnach, mae Hispaniolo yn dominyddu'r masnach Caribi. Twf dylanwad Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn y Caribi. Aur yn cael ei allforio i Sbaen o Dde America i gyd i fynd drwy Hafana - mewn Fflotila enfawr rhag y morleidr.
- 1603 Cyfreithiau llym yn erbyn masnach tobaco â phobl tramor (Ffrainc a Lloegr).
- 1607 Havana yn brifddinas Ciwba.
- 1628 Iseldirwyr dan Piet Heyn yn dwyn tresor aur y "Morlu Sbaeneg" yn harbwr Havana
- 1649 Pla yn lladd traean y boblogaeth.
- 1662 Morlu Saesneg dan Christopher Myngs yn cipio Santiago de Ciwba a mynnu hawliau masnachol efo Jamaica
- 1670 Sbaen yn ildio Jamaica i Loegr yn barhaol.
1700auGolygu
Prydain yn ymyrru ar yr ynys ac yn dod a Florida i'r ymerodraeth Prydeinig. Dylanwad y chwyldro Americanaidd ar yr ynys.
- 1728 Sefydlu Prifysgol Havana.
- 1741 Admiral Prydeinig Edward Vernon yn cipio Bae Guantánamo, a'i enwi yn 'Bai Cumberland. Wedi salwch enfawr yno a bwyrdau aflwyddiannu maent yn tynnu'n ôl i Jamaica.
- 1748
- 12 Hydref - Brwydr Havana. Rhwng llynges Prydain a Sbaen yn harbwr Havana.
- Cwblhau Cadeirlan Havana.
- 1762 30 Gorffennaf - Prydain yn cymryd Havana fel rhan o'r Rhyfel Saith Mlynedd.
- 1763 Prydain yn ffeirio Ciwba am Florida.
- 1793 Gwrthryfel y Caethion Du Saint-Domingue a ddaeth yn Gwrthryfel Haiti yn gyrru 30,000 ffoaduriaid gwyn i Giwba.
1800auGolygu
UDA yn ysgogi annibyniaeth a gwrthryfel yn yr ynys, Sbaen yn ildio Ciwba i'r UDA.
- 1812 Juan Ruíz de Apodaca yn llwyodraethu Ciwba 1812-16.
- 1843 Leopoldo O'Donnell, Dug Tetuan yn llwyodraethu Ciwba 1843-48.
- 1844 Gwrthryfel y Caethion Du Blwyddyn y llach yn dod i ben wedi gorthrymu caled ar y boblogaeth ddu
- 1853 28 Ionawr - Ganwyd José Julián Martí Pérez yn Havana.
- 1868-78 Rhyfel annibyniaeth cyntaf Ciwba - yn para degawd cyfan
- 1879 Awst - Ail rhyfel annibyniaeth sy'n dod i ben erbyn 1880.
- 1886 Diwedd caethwasiaeth yng Nghiwba
- 1895 23 Chwefror - Gwrthryfel gwyn Ciwba dan José Martí a Máximo Gómez y Báez.
- 1896 Gwrthryfel yn llwyddo ond Sbaen yn elwa o Winston Churchill - yn ymladd ar ei hochr hi.
- 1898
- 6 Mehefin - cipio Bai Guantánamo gan milwyr Americanaidd a Chiwbaidd fel rhan o'r Rhyfel Sbaen-America.
- 10 Rhagfyr - Cytundeb Paris yn dod a'r Rhyfel Sbaen-America i ben gyda 'annibyniaeth' i Giwba.
- 1899
- 1 Ionawr - Sbaen yn idlio pwer i'r 'North American Military Governor', Cadfridog John Ruller Brooke.
- 23 Rhagfyr - Leonard Wood yn Llywodraethwr dros dro'r UDA i Giwba
Gweriniaeth CiwbaGolygu
1900auGolygu
- 1901 2 Mawrth - Platt Amendment yn sicrhau rôl parhaol UDA yn Nghiwba.
- 1902 20 Mai - Llwydd cyntaf Ciwba Tomás Estrada Palma.
- 1906 29 Medi - Gwrthryfel a disodli Tomás Estrada Palma - milwyr UDA yn dychwelyd dan William Howard Taft.
- 1909 28 Ionawr - Ciwba yn etholi José Miguel Gómez yn Llwydd
- 1912 Gwrthryfel y Boblogaeth Du yn methu, milwyr UDA yn dychwelyd
- 1913 20 Mai - Ciwba yn etholi Mario García Menocal
- 1917 milwyr UDA yn dychwelyd
- 1921 20 Mai - Ciwba yn etholiAlfredo Zayas , milwyr UDA yn dychwelyd eto
- 1925 20 Mai - Ciwba yn etholi Gerard Machado
- 1926 13 Awst - genedigaeth Fidel Alejandro Castro Ruz yn Holguín.
- 1928 14 Mehefin - Geni Ernesto Guevara de la Serna (Che Guevara) yn Rosario, Ariannin.
- 1931 10-14 Awst - Carlos Mendieta a Mario García Menocal yn glanio efo milwyr i geisio disodli'r unben Gerardo Machado. Maent yn colli.
- 1933 4 Medi - Coupe Militaraidd dan Fulgencio Batista dan dylanwad UDA.
- 1934 16, 17 Mehefin - Gwyl Havana yn droi yn frwydr efo lladd yn y strydoedd.
- 1941
- 8 Mai - Sandalio Junco undebwr Trotskyiaidd yn cael ei ladd gan ddilynwyr Stalin
- Rhagfyr - Ciwba yn ymuno yn y rhyfel yn erbyn Yr Almaen, Japan, a'r Eidal.
- 1943 Agor Llysgenadaeth Sofiet yn Havana.
Chwyldro a'r Giwba SosialaiddGolygu
1950auGolygu
- 1952 Mawrth - Cadfridog Batista, yn cymryd grym unwaith eto.
- 1953
- 26 Gorffennaf - 160 milwr dan Fidel Castro yn ymladd yn erbyn baracs Moncada yn Santiago de Cuba. Fidel yn y carchar.
- 16 Hydref - Fidel Castro yn areithio "hanes bydd fy nghyfiawnhad"
- 1954
- Medi - Che Guevara yn cyrraedd o Ddinas Mecsico.
- Tachwedd - Batista yn cael ei 'ethol' mewn etholliad un dyn.
- 1955 Mai - Rhyddhau Fidel dan amnest gan Batista.
- 1956
- 25 Tachwedd - Fidel Castro, Raúl Castro, Che Guevara a Camilo Cienfuegos, a 80 milwr yn dychwelyd o Mecsico i Giwba ar y cwch Granma.
- 2 Rhagfyr - Granma yn glanio Oriente Province.
- 1957
- 13 Mawrth - Myfyrwyr yn ymosod ar Balas y Llywydd Havana.
- 28 Mai - Castro yn cymryd El Uvero.
- 5 Medi - Gwrthryfel gan y llynges yn Cienfuegos ond Batista yn dal ei rym.
- 1958
- Chwefror - Raúl Castro yn dechrau rhyfel gwrila yn y Sierra de Cristal.
- 13 Mawrth - UDA yn atal cyflenwi milwyr Batista.
- 9 Ebrill - Streic Cyffredinol
- Mai - Batista syn anfon 10,000 i'r Sierra Maestra rhag Castro 300, Castro yn colli.
- Tachwedd - Castro yn ennill dref Guisa ac wedyn talaith Oriente.
- Rhagfyr - Guevara, William Alexander Morgan yn ymosod ar Santa Clara ac ennill
- 31 Rhagfyr - Camilo Cienfuegos yn ennill Yaguajay, a Huber Matos yn cymryd Santiago dros Castro
- 1959
- 1 Ionawr - Batista yn ffoi. Fidel Castro yn gorymdeithio drwy Santiago de Ciwba. Raúl Castro, mae Havana yn syrthio
- 2 Ionawr - Guevara a Camilo Cienfuegos yn Havana.
- 5 Ionawr - Manuel Urrutia yn Llywydd Ciwba
- 8 Ionawr - Fidel Castro yn Havana.
- 16 Chwefror - Fidel Castro yn Prifweinidog Ciwba.
- 20 Ebrill - Fidel Castro yn siarad ym Mhrifysgol Princeton, New Jersey.
- 17 Mai - Dosbarthu tir o'r ystadau mawr.
- 11 Rhagfyr - Achos politicaidd cyntaf Huber Matos
1960auGolygu
- 1960
- 17 Mawrth - Dwight Eisenhower yn gofyn i'r CIA hyfforddu milwyr Ciwba ar gyfer ymosod ar Giwba.
- 5 Gorffennaf - Gwladoli holl eiddio UDA.
- 19 Hydref - Embargo UDA rhag Ciwba yn dechrau.
- 26 Rhagfyr - Operation Peter Pan yn cymryd 14,000 o blant o Giwba i'r UDA.
- 1961
- 1 Ionawr - Y cynllun llythrenedd.
- 15 Ebrill - glaniad Bay of Pigs yn methiant i'r gwrth-gomiwnyddwyr
- Embargo llawn UDA ar Giwba.
- 1962
- 17 Awst - Central Intelligence Agency yn awgrymu bod yr Undeb Sofietaidd yn adeiladu bas taflegrau yng Nghiwba.
- 29 Awst - John F. Kennedy yn dweud: "I'm not for invading Cuba at this time... an action like that... could lead to very serious consequences for many people."
- 16 Hydref - McGeorge Bundy yn dweud wrth President Kennedy bod "Soviet medium-range ballistic missiles are in Ciwba".
- 23 Hydref - Blocâd môr ac awyr a bygythiad ymosod niwclear gan UDA, tasai taflegrau yn dod o Giwba.
- 28 Hydref - Khrushchev yn cytuno gwaredu'r taflegrau o Giwba a'r UDA yn cytuno nid i oresgyn Ciwba.
- 21 Tachwedd - diwedd y blocâd.
- 1967
- 8 Hydref - dienyddio Che Guevara yn La Higuera, Bolifia gan elynion y Chwydro.
- 1968
- Mawrth - cau bob bar yn Nghiwba.
1970auGolygu
- 1972 Ciwba yn aelod o COMECO.
- 1975 Yr Undeb Sofietaidd yn anfon milwyr Ciwba i Angola.
- 1976 2 Rhagfyr - Fidel Castro yn Arlywydd Ciwba.
- 1977 May - 50 milwyr cyntaf Ciwba yn cyrraedd Ethiopia, bydd 12,00 yno yn y diwedd.
1980auGolygu
- 1980 Ebrill - Mariel Boat Lift. Llywodreth Ciwba yn caniatau pobl i adael - 125,000 yn ffoi i'r UDA
- 1983 25 Hydref - UDA yn oresgyn Grenada a saethu yn erbyn milwyr o Giwba.
- 1984 Ciwba yn lleihau milwyr yn Ethiopia i 3,000 o 12,000.
- 1989 17 Medi - Milwyr Ciwba yn gadael Ethiopia.
1990auGolygu
- 1990 23 Mawrth - UDA yn caniatáu sianel teledu gwrth-gomiwnyddol TV Marti
- 1991
- Mai - Milwyr Ciwba yn gadael Angola.
- diwedd yr Undeb Sofietaidd
- 1992 Gorffennaf - etholiadau uniongyrchol dan ddylanwad Ewrop.
- 1993 6 Tachwedd - Caniatáu buddsoddi preifat.
- 1996 12 Mawrth - Yr Helms-Burton Act, yn ymestyn embargo UDA i gwmniau tu allan i'r UDA e.e. rhai yn Ewrop.
- 1998 21 Ionawr - Pab John Paul II yn ymweld â Chiwba.
- 1999 5 Tachwedd - bachgen 6 oed Elián González yn dod i'r lan ar y Straits of Florida ac yn dod yn ganolbwynt y rhyfel propaganda.
2000auGolygu
- 2000 14 Rhagfyr - Vladimir Putin yn ymweld â Chiwba a llofnodi cytundebau newydd.
- 2002
- Ionawr - Bas olaf Rwsia yng Nghiwba, yn Lourdes, yn cau.
- 12 Mai - Cyn Llywydd UDA Jimmy Carter yn ymweld â Chiwba.
- 2003 Ebrill - Arestio 78 ysgrifennwyr a gwleidyddion yng Nghiwba
- 2004 8 Tachwedd - Banio'r US dollar, a threth 10% ar gyfnewid dollar-peso .
- 2005 7 Gorffennaf - Corwynt Dennis yn lladd 16.
- 2006 31 Gorffennaf - Raúl Castro yn Llywydd dros dro wedi salwch Fidel.
- 2008 19 Chwefror - Fidel Castro yn cadarnhau ei ymddeoliad.
Cymru a ChiwbaGolygu
Cymdeithas Cymru CiwbaGolygu
Grwp sy'n cefnogi pobl Ciwba ac ymgyrchu rhag ddylanwad UDA. Maen nhw'n rhan o ymgyrch byd eang i gefnogi Ciwba yn ymarferol. Maen nhw'n bresennol bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn weithgar iawn drwy Gymru. http://www.cymrucuba.co.uk/index[dolen marw]
Harri Morgan a ChiwbaGolygu
Roedd y llyngesydd Syr Henry Morgan, sef Harri Morgan yn y Gymraeg (tua 1635–1688), yn forwr, a oedd yn un o ffigyrau enwocaf y Caribi. Roedd yr enwocaf a mywaf llwyddiannus o'r preifatwyr o Gymru. Yn 1667, cafodd gomisiwn gan Modyford iddo ysbeilio arfordir deheuol Ciwba ac i ddal ysbeinwyr fel gwystlon o Giwba i amddiffyn Jamaica. Cyrhaeddodd Ciwba a 10 llong a 500 dyn, cymerodd ac ysbeiliodd Morgan ddinas Puerto Principe, Camaguey. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar Hafana ond roedd hyn yn ormod. Gyrrodd stormydd ei llongau i'r lan yn y De, a dihangodd un o'r wystlon, felly cafodd dinasyddion Puerto Principe amser i ddianc efo'i trysor. Enillodd ddim ond 50,000 pieces of eight. Aethon nhw ymlaen i ysbeilio tref cyfoethocaf y Caribi wedyn sef Porto Bello a chasglu 200,000 'pieces of eight'.
DemograffegGolygu
Cyfrifiad Swyddogol 1899-2002 Ciwba | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Hil % | 1899 | 1907 | 1919 | 1931 | 1943 | 1953 | 1981 | 2002 |
Gwyn | 66.9 | 69.7 | 72.2 | 72.1 | 74.3 | 72.8 | 66.0 | 65.05 |
Du | 14.9 | 13.4 | 11.2 | 11.0 | 9.7 | 12.4 | 12.0 | 10.08 |
Tras cymysg | 17.2 | 16.3 | 16.0 | 16.2 | 15.6 | 14.5 | 21.9 | 24.86 |
Asiaidd | 1.0 | 0.6 | 0.6 | 0.7 | 0.4 | 0.3 | 0.1 | 1.0 |
Yn ôl cyfrifiad 2002, roedd y boblogaeth yn 11,177,743,
Roedd mewnfudo ac allfudo enfawr yng Nghiwba. Cyn y 18g roedd y boblogaeth hanner du a hanner gwyn, ond yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg daeth mewnforio poblogaeth i weithio yn y diwyddiant siwgr a thobaco, caethion a rhyddion a'r rhan fwyaf yn bobl ddu o'r caribi ac affrica. Ond erbyn diwedd y ganrif a rhywfaint o annibyniaeth (dan hegemoni UDA a Phrydain) daeth mwy o ymsefydlwyr o Sbaen a'r Unol Daleithiau, yn nodweddiadol o'r Ynysoedd Dedwydd, Catalwnia, Andalwsia, Galisia ac o hen drefedigaethau Sbaen i Giwba. Rhwng 1900 a 1930 daeth bron miliwn o Sbaen.
CyfeiriadauGolygu
- Hugh Thomas Cuba or the Pursuit of Freedom (Paperback) Da Capo Press; Updated edition (April, 1998) ISBN 0-306-80827-7
Dolenni allanolGolygu
- [1] Dr. Castro's Princeton Visit
- Timeline: Cuba. A chronology of key events BBC online. 1 August 2006. Accessed 5 October 2006.
- http://www.cubagob.cu/otras_info/censo/tablas_html/ii_3.htm
- http://www.cymrucuba.co.uk/ALAS_Leaflet.pdf Archifwyd 2011-09-19 yn y Peiriant Wayback.
- [2] Archifwyd 2011-07-22 yn y Peiriant Wayback. Erthygl blog gan Petroc ap Seisyllt am y chwyldro erbyn heddiw 2010.
- http://www.cubastudiesjournal.org/issue-3/civil-society-collaboration/wales-cuba-solidarity.cfm Archifwyd 2010-11-01 yn y Peiriant Wayback.