George Osborne Morgan

gwleidydd
(Ailgyfeiriad o Osborne Morgan)

Gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig oedd Syr George Osborne Morgan (8 Mai 182625 Awst 1897).

George Osborne Morgan
Ganwyd8 Mai 1826 Edit this on Wikidata
Göteborg Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 1897 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
George Osborne Morgan (1826-97) LlGC3362477

Ganed ef yn Gothenburg, Sweden, ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor, Ysgol Amwythig a Coleg Balliol, Rhydychen. Daeth yn fargyfreithiwr yn 1853. Bu'n Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych o 1868 hyd 1885, a thros etholaeth Dwyrain Sir Ddinbych o 1885 hyd ei farwolaeth. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Sant Tysilio, Llandysilio-yn-Iâl.

Roedd yn gyfrifol am gyflwyno'r Ddeddf Gladdedigaethau yn 1870, a basiwyd yn y diwedd yn 1880, yn rhoi'r hawl i gynnal unrhyw wasanaeth claddu Cristnogol ym mynwent y plwyf. Cododd hyn o'r digwyddiadau yn angladd Henry Rees yn 1869. Roedd hefyd yn gyfrifol am Ddeddf Mannau Addoli (Safleoedd) a basiwyd yn 1873. Roedd yn gefnogwr i fesur Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, ac i Goleg Prifysgol Aberystwyth.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Watkin Williams-Wynn a
Robert Myddelton-Biddulph
Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych
gyda Syr Watkin Williams-Wynn (hyd Mai 1885);
Syr Herbert Williams-Wynn (o Mai 1885)

18681885
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Sir Ddinbych
18851897
Olynydd:
Samuel Moss