Osetiaid
Cenedl a grŵp ethnig Indo-Iranaidd sydd yn frodorol i ardal Osetia yn y Cawcasws yw'r Osetiaid. Maent yn disgyn o'r Alaniaid, nomadiaid hynafol a ymfudodd ar draws y stepdiroedd. Datblygodd hunaniaeth yr Osetiaid yn y 13g, pan symudodd yr Alaniaid i'r mynyddoedd yn sgil goresgyniadau'r Mongolwyr. Siaradent yr iaith Oseteg, sydd yn tarddu o'r ieithoedd Sgytheg a Sarmateg, ac mae ganddynt draddodiad llenyddol o arwrgerddi sy'n traddodi hanesion rhyfelwyr y Narts. Cawsant eu troi'n Gristnogion dan ddylanwad eu cymdogion, y Georgiaid.[1]
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig ![]() |
Mamiaith | Ossetian, rwseg ![]() |
Poblogaeth | 670,000 ![]() |
Crefydd | Cristnogaeth, islam, eglwysi uniongred ![]() |
Rhan o | Pobl o Iran ![]() |
![]() |
Rhennir mamwlad yr Osetiaid yn wleidyddol yn yr 21g: un o weriniaethau Ffederasiwn Rwsia yw Gogledd Osetia-Alania, a thiriogaeth ddadleuol yw De Osetia a hawlir gan Georgia ond cydnabyddir gan Rwsia ac ychydig o wledydd eraill yn wladwriaeth annibynnol.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Carl Waldman a Catherine Mason. Encyclopedia of European Peoples (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 572–73.