De Osetia
Tiriogaeth ddadleuol yn y Cawcasws yw De Osetia (Oseteg: Хуссар Ирыстон, Khussar Iryston; Georgeg: სამხრეთ ოსეთი, Samkhret Oseti; Rwseg: Южная Осетия, Yuzhnaya Osetiya). Yn ôl cyfraith ryngwladol, mae'n rhan de jure o weriniaeth Georgia, ond mae'n weriniaeth annibynnol de facto gyda chysylltiadau agos â Gogledd Osetia, sy'n rhan o Ffederasiwn Rwsia. Yn hanesyddol, mae'n rhan o Osetia, un o sawl cenedl hanesyddol bychan yn y Cawcasws. Tskhinvali yw'r brifddinas. Cydnabyddir De Osetia gan ychydig o wledydd eraill yn unig.
![]() | |
![]() | |
Math | gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, gwlad dirgaeedig, tiriogaeth ddadleuol ![]() |
---|---|
Prifddinas | Tskhinvali ![]() |
Poblogaeth | 53,532 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | National Anthem of South Ossetia ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Constantine Dzhussoev ![]() |
Cylchfa amser | UTC+03:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Oseteg, Georgeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Georgia, De Osetia ![]() |
Arwynebedd | 3,900 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Rwsia ![]() |
Cyfesurynnau | 42.225°N 43.97°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of South Ossetia ![]() |
Corff deddfwriaethol | Parliament of South Ossetia ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of South Ossetia ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Alan Gagloyev ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog De Osetia ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Constantine Dzhussoev ![]() |
![]() | |
Arian | Rŵbl Rwsiaidd, Commemorative coins of South Osetia ![]() |

Mae tua 60-70% o'r boblogaeth yn Osetiaid, ac yn Gristnogion sy'n siarad Oseteg, iaith sy'n debyg i Farsi.Ond ceir pryder am ddyfodol yr iaith Oseteg oherwydd diffyg addysg a hefyd gwahaniaethau tafodiaethol o fewn De a Gogledd Osetia.[1] Mae gweddill y boblogaeth, yn bennaf yn y de, yn Georgiaid.
Cyhoeddwyd gweriniaeth annibynnol De Osetia gan wrthyfelwyr yn erbyn awdurdod Georgia yn 2001, ar ôl cyfnod o anghydfod a gwrthryfel. Erbyn heddiw mae tua 90% o boblogaeth y diriogaeth yn dal pasbortau Rwsiaidd, a hynny ar anogaeth Rwsia ei hun. Sefydlwyd llu heddwch yn y diriogaeth, yn cynnwys milwyr Rwsiaidd yn bennaf ac unedau o fyddin Georgia.
Yn ystod y nos ar 7 Awst 2008, ymosododd lluoedd arfog Georgia ar y gwrthryfelwyr a bomiwyd rhannau o ddinas Tskhinvali gan gychwyn Rhyfel De Osetia. Ymateb Rwsia, a oedd wedi bod yn crynhoi adnoddau milwrol ar y ffin am tua dau fis, oedd anfon ei milwyr i mewn i Dde Osetia.
Mae Oseteg a Rwseg yn ieithoedd swyddogol o fewn y tiriogaeth.

Dolen allanol
golygu- (Saesneg) BBC News: Proffil De Osetia