Afon ail fwyaf Moroco gyda hyd o 600 km yw'r Oum Er-Rbia (ceir sawl amrywiad ar sillafiad yr enw yn y wyddor Rufeinig, yn cynnwys Oum Errabiaa, Oum Er R'bia ac Oum Er-Bia).

Oum Er-Rbia
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMoroco Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Cyfesurynnau33.05639°N 5.38014°W, 33.32°N 8.3381°W Edit this on Wikidata
TarddiadAtlas Canol Edit this on Wikidata
AberCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
LlednentyddOued Tessaout Edit this on Wikidata
Dalgylch35,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd556 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad117 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddQ86508430, Sidi Saïd Maâchou Edit this on Wikidata
Map
Oum Er R'bia

Gorwedd tarddle'r afon yn yr Atlas Canol tua 40 km o dref Khénifra a 26 km o M'rirt, yn commune wledig Oum Errabiaa. Ar ôl llifo am 600 km ar draws y wlad i gyfeiriad y gorllewin mae'n aberu yng Nghefnfor Iwerydd ger dinas fechan Azemmour (rhanbarth Abda-Doukkala, Grand Casablanca).

Ceir wyth argae ar ei chwrs, sy'n cyflenwi dŵr i ardal eang; y pwysicaf yw Bin el Ouidane, ar Oued El Aabid, ger tref Beni Mellal 120 km o Khénifra. Mae'r afon yn dyfrhau tiroedd amaethyddol gwastatiroedd Tadla ac Abda-Doukkala. Prif lednentydd yr Oum Errabiaa yw Oued Srou, Oued Chbouka ac Oued Ouaoumana.

Ystyr yr enw Oum Er-Rbia yw "Mam y Gwanwyn" am fod yr afon yn llenwi â dŵr o'r eira toddedig oddi ar Mynyddoedd yr Atlas yn y gwanwyn ac yn gorlifo i ffrwythloni'r tir. Mae gan yr afon hon le arbennig yn hanes a thraddodiad y Maghreb am fod y cadfridog Oqba ibn Nafi wedi arwain ei fyddin Islamaidd ar hyd ei glannau i gyrraedd Cefnfor Iwerydd ar ddechrau'r 680au ac agor pennod newydd yn hanes Moroco a'r Maghreb. Mae'r nofel La Mère du Printemps gan yr awdur Driss Chraïbi, a aned ger glannau'r afon, yn seiliedig ar yr hanes a'r effaith a gafodd ar ddiwylliant y Berberiaid.