Owain Fychan ap Madog
tywysog Powys
(Ailgyfeiriad o Owain Fychan)
Un o bedwar mab Madog ap Maredudd, tywysog Teyrnas Powys, oedd Owain Fychan ap Madog (bu farw 1187).
Owain Fychan ap Madog | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Bu farw | 1187 |
Galwedigaeth | pendefig |
Swydd | tywysog |
Tad | Madog ap Maredudd |
Mam | Siwsana ferch Gruffudd |
Bywgraffiad
golyguEi frodyr oedd Llywelyn ap Madog (m. 1160), Gruffudd Maelor (m. 1191) ac Owain Brogyntyn. Roedd ganddo ddwy chwaer, sef Efa ferch Madog ac Elise.
Ar farwolaeth Madog ap Maredudd yn 1160, bu ymrafael ac ymgiprys am rym yn nheyrnas Powys a chafodd Owain Fychan gantref Mechain yn dreftadaeth. Nid oes ganddo le amlwg o gwbl yng nghofnodion y cyfnod ac felly mae'n anodd gwybod ei ran yng ngwleidyddiaeth gymhleth Powys ar ôl marwolaeth ei dad, Madog.
Canodd y bardd Llywelyn Fardd I gerdd dadolwch i Owain Fychan. Tybir iddi gael ei chyfansoddi yn fuan ar ôl marwolaeth Madog ap Maredudd.
Cyfeiriadau
golygu- Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd I', yn Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif, gol. Kathleen Anne Bramley et al. (Caerdydd, 1994), tt. 45-59