Owain I, brenin Ystrad Clud
Brenin teyrnas Frythonaidd Ystrad Clud yng nghanolbarth yr Alban yn negawdau cyntaf y 10g oedd Owain I (hefyd: Ywain I neu Eógan I) (Lladin: Eugenius). Roedd ei linach yn ymestyn yn ôl i deyrnoedd Brythoniaid yr Hen Ogledd.
Owain I, brenin Ystrad Clud | |
---|---|
Bu farw | 937 |
Dinasyddiaeth | Ystrad Clud |
Galwedigaeth | teyrn |
Blodeuodd | 934 |
Swydd | list of kings of Strathclyde |
Tad | Dyfnwal, King of Strathclyde |
Plant | Dyfnwal ab Owain |
Cred rhai haneswyr iddo syrthio ym Mrwydr Brunanburh mewn cynghrair â Cystennin II, brenin yr Alban, a Gwŷr Dulyn yn erbyn Aethelstan, brenin Wessex, yn 937.
Ffynonellau
golygu- MacQuarrie, Alan, 'The Kings of Strathclyde', yn A. Grant & K.Stringer (gol.) Medieval Scotland: Crown, Lordship and Community, Essays Presented to G.W.S. Barrow (Edinburgh, 1993), tt. 1-19.