Owain ap Hywel (Glywysing)

brenin Glywysing

Roedd Owain ap Hywel (m. tua 930[1]) yn frenin Glywysing a Gwent yn ne-ddwyrain Cymru.

Owain ap Hywel
Bu farw930 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadHywel ap Rhys Edit this on Wikidata
PlantCadwgan ab Owain, Morgan Hen ab Owain, Gruffydd ab Owain Edit this on Wikidata

Bu tad Owain, Hywel, yn frenin Glywysing tan ei farwolaeth o gwmpas y flwyddyn 886. Er anrhydedd i fab Owain, Morgan Hen ab Owain, y daeth teyrnas unedig Glywysing a Gwent i'w hadnabod fel Morgannwg, ond dadleua T. Charles-Edwards ei bod yn debygol i'r ddwy deyrnas gael eu huno yn ystod teyrnasiad Owain.[2] Rhaid bod Owain neu ei frawd Arthfael wedi ennill rheolaeth o Went trwy goncwest neu etifeddiaeth gan eu cefndryd, a bod y deyrnas wedi'i huno yn dilyn marwolaeth Arthfael o gwmpas 916.

Pont Eamont Bridge, Cumbria

Cyfarfu Owain, ynghyd â Hywel Dda, a'r Brenin Æthelstan o Wessex ar ol i Æthelstan lwyddo i goncro Northumbria. Tua'r flwyddyn 927, gwnaeth Hywel ac yntau heddwch gydag thelstan wrth bont Eamont Bridge ger Penrith.[3][4][5] Mae'r beirdd yn disgrifio'r taliadau arian a nwyddau a wnaed i Æthelstan yn dilyn hynny[6] fel baich trwm ar y Cymry.

Yn dilyn marwolaeth Owain, rhannwyd y deyrnas rhwng ei feibion - Cadwgan, Morgan a Gruffydd - ond cafodd Morgan oes hir a llwyddodd i uno'r deyrnas unwaith eto, a rhoddwyd ei enw iddi.

Gwraig a phlant golygu

Gwraig Owain oedd Elen ferch Rhodri (g. tua  850). Ei feibion oedd:

  • Cadwgan (brenin Gorllewin Glywysing, lladdwyd tua 950)[7]
  • Morgan Hen (brenin Gwent yn wreiddiol, m. tua 974)
  • Gruffydd (brenin Dwyrain Glywysing, lladdwyd tua 935)

Cyfeiriadau golygu

  1. David Ford, Early British Kingdoms: "South Welsh Royal Pedigree: Kings of Gwent, Glywysing, Morgannwg, Ergyng, Garth Madrun & Early Kings of Dyfed". Adalwyd 20 Chwefror 2013.
  2. T. Charles-Edwards, Wales and the Britons, 350–1064 (Oxford University Press, 2012), t.495. Adalwyd 20 Chwefror 2013.
  3. Anglo-Saxon Chronicle (D text), entry for AD 926.
  4. Pauline Stafford (gol.), A Companion to the Early Middle Ages: Britain and Ireland c.500–1100, [1] (John Wiley & Sons, 2009), t. 343. Adalwyd 20 Chwefror 2013.
  5. David Moore, The Welsh Wars of Independence, c.1415– c.1415, (Tempus, 2005), t. 31.
  6. Glanmor Wiliams, Glamorgan County History, cyf. 2: Early Glamorgan: Pre-History and Early History (W. Lewis, 1984), t.352
  7. Mike Ashley, The Mammoth Book of British Kings and Queens (New York: Carroll & Graf Publishers, 1998). Adalwyd 20 Chwefror 2013.