Owen Gethin Jones
Llenor Cymraeg, saer a hynafiaethydd o Gymru oedd Owen Gethin Jones neu "Gethin" (1 Mai 1816 – 29 Ionawr 1883). Roedd yn frodor o blwyf Penmachno (Bro Machno, Sir Conwy).[1]
Owen Gethin Jones | |
---|---|
Gethin, tua 1875 | |
Ffugenw | Gethin |
Ganwyd | 1 Mai 1816 Penmachno |
Bu farw | 29 Ionawr 1883 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, gwaith y saer, hynafiaethydd, bardd |
Bywgraffiad
golyguGaned Gethin ar 1 Mai 1816 yn Tyn-y-cae, Penmachno, yn fab i Owen a Grace Jones. Saer maen oedd ei dad. Dysgodd Gethin grefft ei dad ond yn nes ymlaen bu'n saer coed am gyfnod ac wedyn daeth yn adeiladydd. Priododd yn 1843 ac yn 1852 prynodd fferm Tyddyn Cethin. Ffynnodd fel amaethwr, crefftwr a chontractor. Bu farw ar y 29 o Ionawr 1883, flwyddyn ar ôl cael ei barlysu (canlyniad cael strôc, mae'n debyg).[1]
Llenor a hynafiaethydd
golyguRoedd Gethin yn fardd eisteddfodol brwdfrydig ond fe'i cofir heddiw fel hynafiaethydd ac fel hanesydd lleol, ac yn enwedig am ei draethodau ar hanes plwyfi Penmachno, Ysbyty Ifan, a Dolwyddelan. Cyhoeddwyd detholiad o'i waith yn 1884, blwyddyn ar ôl ei farw.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Cyhoeddiadiau
- Gweithiau Gethin (1884). Gyda 'byr-gofiant' iddo.
- Astudiaeth
- Vivian Parry Williams, Owen Gethin Jones - Ei Fywyd a'i Feiau (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Y Bywgraffiadur Cymreig, gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.