Penmachno

pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Pentref yng nghymuned Bro Machno, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Penmachno.[1][2] Saif ynghanol cwm Penmachno, 3 milltir (5 km) i'r gogledd-ddwyrain o bentrefan Cwm Penmachno, a 4 milltir i'r de o Fetws-y-Coed. Llifa afon Machno trwy'r pentref.

Penmachno
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0333°N 3.8°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH790505 Edit this on Wikidata
Cod postLL24 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map

Hanes a hynafiaethau golygu

Ganed yr Esgob William Morgan (1545-1604) yn Nhŷ Mawr Wybrnant, heb fod ymhell o'r pentref. Mae'r tŷ yn awr yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gellir ymweld ag ef a gweld arddangosfa ar gyfieithu'r Beibl i'r iaith Gymraeg.

Yn eglwys Sant Tudclud yn y pentref mae pum carreg gerfiedig cynnar sy'n dyddio o Oes y Seintiau yn y bumed a'r 6g. Y bwysicaf o'r rhain yw carreg fedd o ddiwedd y 5g sy'n coffáu gŵr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Ladin fel hyn: Cantiorix hic iacit / Venedotis cives fuit / consobrinos Magli magistrati, neu mewn Cymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at "cives" a "magistratus" yn awgrymu parhad y drefn Rufeinig yng Ngwynedd am gyfnod ar ôl i'r llengoedd Rhufeinig adael.

Cedwir yr eglwys ar glo bellach, ac i weld y cerrig rhaid gofyn am yr allwedd o dŷ cyfagos.

Pobl o Benmachno golygu


Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 22 Tachwedd 2021