Owen Lewis
Esgob Pabyddol yn ne'r Eidal, a gŵr o Langadwaladr, Ynys Môn oedd Owen Lewis (neu Lewis Owen ar adegau; 28 Rhagfyr 1533 – 14 Hydref 1595).[1]
Owen Lewis | |
---|---|
Ffugenw | Audœnus Ludovisi |
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1532 Llangadwaladr |
Bu farw | 14 Hydref 1595 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | esgob esgobaethol, Apostolic Nuncio to Switzerland |
Cyflogwr |
Ganwyd Owen Lewis (Eidaleg: Ludovico Audoeno, Lladin: Audoenus Ludovisi) ym mhentrefan Bodeon ger Llangadwaladr. Daeth yn Esgob Cassano all'Ionio, yn yr Eidal.[2] Gwrthwynebai Brotestaniaeth i'r carn. Mynychodd Goleg Caerwynt (Winchester College), Coleg Newydd, Rhydychen ac yna Prifysgol Douai yn Ffrainc, ac fe'i gwnaed yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig ac yn brifathro prifysgol yn Adran y Gyfraith yn Douai; yna fe'i gwnaed yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Cambrai, ac yn ddeon yn Hanawt. Yn ei rol fel canon ymwelodd sawl tro â Rhufain lle y cyfarfu'r Pab Sixtus V ac yna'r Pab Grigor XIII a phenodwyd ef i sawl swydd eglwysig.[3]
Sefydlodd, gyda William Allen, ddau goleg offeiriadol, y naill yn Douai a'r llall yn Rhufain, a rhoddodd swydd i'w gyfaill Morys Clynnog (tua 1525 – 1581) yn y coleg yn Rhufain. Ym Milan, rhwng 1580 a 1584, gweithredodd fel Gweinyddwr y brifysgol. Croesawyd ef yn gynnes i Milan gan yr Archesgob Carlo Borromeo ac arhosodd Owen gydag ef a'i deulu am gyfnod. Ym mreichiau Owen y bu farw Borromeo. Daeth Cymry eraill ato i'r Eidal, gan gynnwys Gruffydd Robert (cyn 1531 – ar ôl 1598).[4]
Yn Rhufain bu'n gyfrifol am bolisiau'n ymwneud â Mari, brenhines yr Alban a Choleg Reims.[5] Ar 3 Chwefror 1588 penodwyd ef yn Archesgob Cassano ym Mrenhiniaeth Napoli ac ordeiniwyd ef gan Nicolas de Pellevé ar 14 Chwefror.[2]
Bu farw yn Rhufain ar 14 Hydref 1594 a chladdwyd ef yn y brifysgol a sefydlodd, lle codwyd cofeb iddo gydag arysgrif Ladin arno.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ LEWIS , OWEN , or OWEN , LEWIS
- ↑ 2.0 2.1 "Bishop Owen (Audoenus) Lewis (Ludovisi)" Catholic-Hierarchy.org. David M. Cheney. Adalwyd 14 Hydref 2017.
- ↑ Brendan Bradshaw, Peter Roberts, British Consciousness and Identity: The Making of Britain, 1533–1707 (2003), tt. 21–22; Google Books.
- ↑ Wietse de Boer, The Conquest of the Soul: confession, discipline, and public order in Counter-Reformation Milan (2001), t. xiii; Google Books
- ↑ Paul Burns, Butler's Lives of the Saints: February (1998), t. 207; Google Books.