Pab Sixtus V
Pab yr Eglwys Gatholig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 24 Ebrill 1585 hyd ei farwolaeth oedd Sixtus V (ganwyd Felice Peretti) (13 Rhagfyr 1521 – 27 Awst 1590). Er iddo deyrnasu am bum mlynedd yn unig, roedd ei gyfnod yn llawn newidiadau ac fe'i gofir fel un o brif arweinwyr y Gwrth-Ddiwygiad. Llwyddodd i ddiwygio'r llywodraeth eglwysig ac adnewyddu dinas Rhufain.
Pab Sixtus V | |
---|---|
Ganwyd | Felice Piergentile 13 Rhagfyr 1521 Grottammare |
Bu farw | 27 Awst 1590 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Taleithiau'r Babaeth |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, diacon, esgob Catholig |
Swydd | pab, Roman Catholic Bishop of Sant’Agata de’ Goti, bishop of Fermo |
Cyflogwr | |
Tad | Piergentile Peretto |
Mam | Marina |
Perthnasau | Michele Peretti, Alessandro Peretti di Montalto, Flavia Peretti Damasceni, Francesco Peretti di Montalto |
llofnod | |
Ganwyd i deulu tlawd o dras Ddalmataidd ym mhentref Grottammare yn rhanbarth Marche, yr Eidal. Bu'n fugail moch cyn iddo ymuno ag Urdd Sant Ffransis yn 12 oed a gwisgo gŵn llwyd y Brodyr Lleiaf fel nofydd.[1] Astudiodd mewn sawl dinas yng ngogledd yr Eidal cyn ei ordeinio yn Siena ym 1547, a'r flwyddyn nesaf enillodd ei ddoethuriaeth yn niwinyddiaeth o Brifysgol Fermo. Daeth yn bregethwr o fri yn ystod oes y Gwrth-Ddiwygiad a chafodd ei noddi gan y Cardinal Carafa (yn hwyrach, Pab Pawl IV), y Cardinal Ghislieri (Pïws V), Sant Filippo Neri, a Sant Ignatius Loyola. Roedd yn gynghorydd i'r Chwilys yn Fenis o 1557 hyd 1560, ond cafodd ei alw yn ei ôl am fod yn rhy frwdfrydig yn ei swydd. Teithiodd Peretti a'r Cardinal Boncompagni (Grigor XIII) i Sbaen ym 1565 i ymchwilio'r cyhuddiad o heresi yn erbyn Archesgob Toledo; roedd cymaint o ddrwg rhwng y ddau ohonynt fe ddaethont yn elynion am oes. Cafodd Peretti ei benodi'n esgob Sant' Agata de' Goti a ficer cyffredinol y Ffransisiaid Lleiaf ym 1566 gan y Pab Pïws V, cardinal ym 1570, ac Esgob Fermo ym 1571. Yn sgil dyrchafiad Boncompagni i'r Babaeth ym 1572, cafodd seibiant o rengoedd uchaf y glerigiaeth a threuliodd y cyfnod hwn yn golygu gweithiau Sant Ambrose, Esgob Milan.[2]
Dan deyrnasiad Grigor XIII, roedd Taleithiau'r Babaeth mewn anhrefn ac herwyr a banditiaid yn rhemp. Ar 24 Ebrill 1585, dwy wythnos wedi marwolaeth Grigor, cafodd Peretti ei ethol heb yr un bleidlais yn ei erbyn, a'i goroni'n bab ar 1 Mai.[1] Cychwynnodd Sixtus ar ymgyrch dresigar i amddiffyn Taleithiau'r Babaeth. Dienyddodd 5000 o fanditiaid yn ystod ei deyrnasiad, a llwyddodd i adfer rhywfaint o heddwch yng nghanolbarth yr Eidal.[3] Cynyddodd cyllid yr Eglwys yn sylweddol drwy gasglu trethi newydd, gwerthu swyddogaethau, a chodi benthyciadau. Adferodd Rhufain gan ail-adeiladau eglwysi a chodi adeiladau a chofebau newydd, a dyluniodd rhwydwaith o ffyrdd i gysylltu cyrion y ddinas â'r ardal ganolog. Ymhlith cyflawniadau'r cyfnod adnewyddu hwn mae adferiad Palas y Lateran, Llyfrgell y Fatican, cromen Basilica Sant Pedr, a'r twnnel a dyfrbont a gludodd dŵr ffres o Palestrina. Dan Sixtus trodd y Rhufain ganoloesol, adfeiliog yn ddinas a nodir gan ei bensaernïaeth faróc.[4]
Ail-drefnodd Sixtus weinyddiaeth yr Esgobaeth Sanctaidd, gan uno ac ehangu system y cynulliadau a chanoli llywodraeth yr Eglwys Babyddol yn Rhufain. Datblygodd Llys y Pab ei ffurf fodern pan osododd Sixtus amodau a rheolau'r Llys yn ei fwl Immensa (1588).[1] Gosododd uchafswm aelodau Coleg y Cardinaliaid yn 70, rheol nas newidiwyd tan 1958. Pwysleisiodd disgyblaeth eglwysig a diwygiodd system weinyddu'r gyfraith. Mynodd i esgobion ymweld â Rhufain yn rheolaidd i roi cyfrif o'u hesgobaethau. O ganlyniad i'r Llys diwygiedig, roedd yr Eglwys Babyddol yn effeithiol wrth roi gorchymynion Cyngor Trent ar waith.[2]
Roedd Sixtus yn ddiplomydd brwd yn wyneb y cyfyng-gyngor o ganlyniad i dwf Protestaniaeth. Gweithiodd gyda'r Ffrancod i amddiffyn Catholigiaeth yn ystod y Rhyfeloedd Crefydd a rhodd caniatâd i'r Philip II, brenin Sbaen lansio'r Armada ym 1588. Hyd yn oed tra'n bab, bu Sixtus wrth waith yr ysgolhaig: cyhoeddodd argraffiadau diwygiedig o'r Septuagint a'r Fwlgat. Fodd bynnag, roedd ei waith yn llawn camgymeriadau a bu'n rhaid cywiro'i olygiad o'r Fwlgat yn hwyrach dan y Pab Clement VIII.[1] Bu farw Sixtus ar 27 Awst 1590. Cafodd ei olynu i'r Babaeth gan Urbanus VII, a deyrnasodd am ddeuddeng niwrnod yn unig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Pope Sixtus V", Catholic Encyclopedia (1912). Adalwyd ar 22 Ionawr 2017.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Sixtus V. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Ionawr 2017.
- ↑ Guido Ruggiero. A Companion to the Worlds of the Renaissance (Wiley-Blackwell, 2006), t. 143. ISBN 1-4051-5783-6.
- ↑ (Saesneg) William D. Montalbano. "Sixtus V: Dynamic Rebuilder of Rome", Los Angeles Times (2 Mawrth 1993). Adalwyd ar 22 Ionawr 2017.
Rhagflaenydd: Grigor XIII |
Pab 24 Ebrill 1585 – 27 Awst 1590 |
Olynydd: Urbanus VII |