Owen Smith

gwleidydd Cymreig ac AS

Cyn-wleidydd yw Owen Smith (ganwyd 2 Mai 1970).[1] Roedd yn Aelod Seneddol dros Bontypridd rhwng 2010 a 2019. Ar ôl gadael San Steffan, daeth yn Gyfarwyddwr Cysylltiadau Llywodraeth y DU, i gwmni fferyllol Bristol Myers Squibb.[2]

Owen Smith
Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yr wrthblaid
Yn ei swydd
14 Mehefin 2017 – 23 Mawrth 2018
ArweinyddJeremy Corbyn
Rhagflaenwyd ganDavid Anderson
Dilynwyd ganTony Lloyd
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau
Yn ei swydd
13 Medi 2015 – 27 Mehefin 2016
ArweinyddJeremy Corbyn
Rhagflaenwyd ganStephen Timms (dros dro)
Dilynwyd ganDebbie Abrahams
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid
Yn ei swydd
15 Mai 2012 – 13 Medi 2015
ArweinyddEd Miliband
Rhagflaenwyd ganPeter Hain
Dilynwyd ganNia Griffith
Gweinidog Cymru yr wrthblaid
Yn ei swydd
25 Medi 2010 – 15 Mai 2012
ArweinyddEd Miliband
Rhagflaenwyd ganWayne David
Dilynwyd ganNia Griffith
AS
dros Pontypridd
Yn ei swydd
6 Mai 2010 – 6 Tachwedd 2019
Rhagflaenwyd ganKim Howells
Dilynwyd ganAlex Davies-Jones
Mwyafrif8,585 (22.5%)
Manylion personol
Ganwyd (1970-05-02) 2 Mai 1970 (54 oed)
Morecambe, Lloegr
Plaid wleidyddolLlafur
PriodLiz Smith
Alma materPrifysgol Sussex

Fe'i ganwyd yn Morecambe, Lloegr. Mae e'n fab i'r hanesydd Cymreig David "Dai" Smith, cyd-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.[3]

Ymunodd gyda'r Blaid Lafur pan oedd yn 16 oed. Astudiodd hanes a Ffrangeg ym Mhrifysgol Essex cyn troi at y BBC i weithio fel cynhyrchydd radio lle gweithiodd am gyfnod o ddeg mlynedd ar raglenni o Lundain a Chaerdydd.[4]

Gyrfa wleidyddol

golygu

Yn 2002 trodd at wleidyddiaeth gan weithio fel cynghorydd i Paul Murphy, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru a dilynodd ef yn ei waith i Ogledd Iwerddon.

Yn 2006 ymgyrchodd yn aflwyddiannus am sedd ym Mlaenau Gwent (mewn Is-etholiad), a enillwyd gan yr annibynnwr Dai Davies. Etifeddodd sedd Kim Howells (Llafur) pan benderfynodd ef roi'r gorau iddi fel AS.[5] Llwyddodd i gipio Pontypridd yn 2010 a daeth yn aelod o Bwyllgor Materion Cymreig y Llywodraeth.

Herio arweinyddiaeth Llafur, 2016

golygu

Ymddiswyddodd o gabinet cysgodol Jeremy Corbyn ar 27 Mehefin 2016 ynghyd â nifer o gyd-aelodau y Blaid Lafur oherwydd "eu diffyg hyder" yn yr arweinydd.[6] Honnodd Smith fod Corbyn yn barod i weld y blaid yn rhannu, gan ysgrifennu ar Twitter: "On July [sic] 27 I asked @jeremycorbyn 3 times if he was prepared to see our party split & worse, wanted it to. He offered no answer. In the same meeting, in response to the same question @johnmcdonnellMP shrugged his shoulders and said 'if that's what it takes'."[7]

Yng Ngorffennaf 2016 datganodd Smith ei fwriad i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn erbyn Jeremy Corbyn, yn dilyn cyhoeddiad Angela Eagle ei bod am sefyll. Dywedodd ei fod yn cefnogi nifer o bolisiau Corbyn ond nad oedd Corbyn yn "arweinydd gall ein arwain i etholiad ac ennill dros Lafur".[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Who's Who". ukwhoswho.com.
  2. Kavanagh, Conor (20 August 2020). "Former MP and Labour leadership candidate joins Bristol Myers Squibb". Pharmafile (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 October 2020.
  3. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-18077671
  4. "Former BBC Producer selected for Pontypridd". Wales Online. Cyrchwyd 7 Mai 2010.
  5. "Election 2010: Pontypridd". Wales Online. Cyrchwyd 7 Mai 2010.[dolen farw]
  6. Saith AS Llafur Cymru yn ymddiswyddo , Golwg360, 27 Mehefin 2016. Cyrchwyd ar 19 Gorffennaf 2016.
  7. "Owen Smith MP: Corbyn 'prepared to see Labour split'", BBC News, 10 July 2016
  8. Rowena Mason, "Owen Smith to challenge Corbyn for Labour leadership", The Guardian, 13 July 2016
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Kim Howells
Aelod Seneddol dros Bontypridd
20102019
Olynydd:
Alex Davies-Jones
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Peter Hain
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
15 Mai 201213 Medi 2015
Olynydd:
Nia Griffith
Rhagflaenydd:
Stephen Timms
dros dro
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau
13 Medi 201527 Mehefin 2016
Olynydd:
Debbie Abrahams