Pa gur yv y porthaur

cerdd Gymraeg o'r 13g

Cerdd yn Llyfr Du Caerfyrddin yw Pa gur yv y porthaur(Pa Gwr yw y Porthawr fel trawslythreniad, a Pa ŵr yw'r porthor? mewn Cymraeg modern). Credir fod y gerdd yn dyddio o tua'r 10g, ac mae'n ffynhonnell bwysig ar gyfer astudiaeth o Arthur. Nid oes teitl fel y cyfryw ar y gerdd; daw'r enw arni o'r llinell gyntaf.

Llinellau cyntaf Pa gur yn y llawysgrif wreiddiol, Llyfr Du Caerfyrddin

Dechreua'r gerdd gyda'r cwestiwn yma, yna ateba'r porthor mai Glewlwyd Gafaelfawr ydyw. Hola yntau yn ei dro pwy sy'n gofyn, a chaiff ar ateb mai Arthur a Cei sydd yno. Ymddengys eu bod yn dymuno cael mynediad i gaer sy'n cael ei chadw gan Glewlwyd. Hola Glewlwyd pwy sydd gyda hwy, ac aiff Arthur ymlaen i ganmol gwrhydri ei wŷr, yn enwedig Cei a Bedwyr. Ymhlith gorchestion Cei, dywedir iddo ladd cath enfawr, Cath Palug. Dywedir i Bedwyr ladd cannoedd ym mrwydr Tryfrwyd. Ymhlith eraill, enwir Manawydan fab Llŷr a Mabon fab Modron; dywedir bod Mabon yn was i Uthr Bendragon.

Llyfryddiaeth

golygu
  • A . O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1982)
  • John T. Koch a John Carey(gol.) The Celtic Heroic Age: literary sources for ancient Celtic Europe and early Ireland and Wales (Maldon, Mass., 1995).
  • Brynley F. Roberts, 'Rhai o gerddi ymddiddan Llyfr Du Caerfyrddin', yn Astudiaethau ar yr Hengerdd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1978), tt. 296-309.
  • Gwyn Thomas, Y Traddodiad Barddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976), tt. 68-71.