Cymeriad a gysylltir â'r brenin Arthur mewn chwedlau Cymreig yw Bedwyr neu Bedwyr Bedrydant. Ceir y cyfeiriad cynharaf ato yn y gerdd Pa Gwr yw y Porthawr yn Llyfr Du Caerfyrddin (o tua'r 10g), lle dywedir iddo ladd cannoedd ym mrwydr Tryfrwyd.

Bedwyr yn dychwelyd Caledfwlch, cleddyf Arthur, i'r llyn. Darlun gan Aubrey Beardsley yn Sir Thomas Malory, Le Morte d'Arthur (Llundain, 1894).

Ymddengys yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle mae'n cynorthwyo Culhwch i gyflawni'r tasgau a roddwyd iddo gan Ysbaddaden Bencawr er mwyn iddo gael priodi Olwen. Yn aml mae'n ymddangos ynghyd â Cai. Gyda Cai, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd ac Eidoel, mae'n mynd i holi'r Anifeiliaid Hynaf. Ef a Cai sy'n teithio ar ysgwydd Eog Llyn Llyw i gael hyd i'r carcharor Mabon fab Modron.

Ymddengys fel Bedivere yn y chwedlau Arthuraidd Ffrengig a Seisnig. Ymddengys yn yr Historia regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, lle mae'n cynorthwyo Arthur a Cai i orchfygu Cawr Mont Saint-Michel ac yn ymladd gydag Arthur yn erbyn Lucius Hiberius, Ymerawdwr Rhufain. Lladdir ef yn y frwydr olaf yn erbyn Lucius yng Ngâl, a chleddir ef yn Bayeux.

Nid yw'n gymeriad mor bwysig yng ngwaith Chrétien de Troyes, ond yn y traddodiad Seisnig, megis y Morte d'Arthur gan Thomas Malory, mae'n un o'r ychydig farchogion sy'n goroesi Brwydr Camlan. Ef sy'n cael y gorchwyl o ddychwelyd Caledfwlch, cleddyf Arthur, i'r llyn. Dywedir iddo wedyn fynd yn feudwy.