Mabon fab Modron
Mabon ap Modron | |
---|---|
Prif le cwlt | Cymru |
Anifeiliaid | Cysylltiadau posibl gyda chŵn a baeddod[1] |
Testunau | Culhwch ac Olwen[1] |
Rhyw | Gwryw |
Gwyliau | Cysylltiadau paganiaeth fodern gyda chyhydnos yr hydref[2] ar Rod y Flwyddyn |
Rhieni | Modron[1] |
Cywerthyddion | |
Rhufeinig-Brydeinig | Maponos |
Cymeriad mewn chwedloniaeth Gymreig yw Mabon fab Modron. Dywedir ei fod yn nai i Arthur. Caiff ei uniaethu a'r duw Celtaidd Maponos, sy'n ymddangos mewn arysgrifau yng Ngâl a Phrydain. Uniaethir ei fam, Modron, a'r fam-dduwies Matrona.
Ymddengys Mabon fab Modron fel cymeriad yn y chwedl Culhwch ac Olwen. Mae Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen, ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgau (anoethau) anodd os nad amhosibl. Un o'r rhain yw ceisio Mabon fab Modron, a ddygwyd oddi wrth ei fam yn dri diwrnod oed, ac na ŵyr neb ymhle y mae. Rhaid cael Mabon i helpu i hela'r Twrch Trwyth.
Caiff Culhwch gymorth Arthur a'i ŵyr i gwblhau'r tasgau. Aiff Cai, Bedwyr, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd ac Eidoel i holi'r Anifeiliaid Hynaf a wyddant rywbeth o'i hanes. Wedi holi nifer o'r anifeiliaid hynaf, cyrhaeddant at Eog Llyn Llyw, sy'n gwybod hanes Mabon. Teithia Cai a Bedwyr ar ysgwydd yr eog i ddarganfod Mabon yn ei garchar a'i ryddhau.
Yn nes ymlaen yn y chwedl, cymer ran yn hela'r Twrch Trwyth ar farch o'r enw Wynn Mygdwn. Ef sy'n cipio'r ellyn oddi ar ben y twrch.
Yn Nhrioedd Ynys Prydain cyfeirir ato fel un o Dri Goruchel Garcharor Ynys Brydain, gyda Llŷr Llediaith ac Arthur. Mae cerdd Pa Gwr yw y Porthawr yn Llyfr Du Caerfyrddin lle dywedir ei fod yn was i Uthr Bendragon.
Dywed un traddodiad ei fod yn fab i Afallach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages (yn Saesneg). Avalonia. tt. 183–184.
- ↑ Zell-Ravenheart, Oberon Zell-Ravenheart & Morning Glory (2006). Creating circles & ceremonies : rituals for all seasons & reasons. Franklin Lakes, NJ: New Page Books. t. 227. ISBN 1564148645.
Llyfryddiaeth
golygu- d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages. Avalonia.
- Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.) Culhwch and Olwen: an edition and study of the oldest Arthurian tale (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992) ISBN 0-7083-1127-X