Pab Boniffas IX
(Ailgyfeiriad o Pab Boniface IX)
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a wasanaethodd fel Pab yn Rhufain o 3 Tachwedd 1389 hyd ei farwolaeth oedd Boniffas IX (ganed Pietro Tomicelli) (1356 - 1 Hydref 1404). Cafodd ei ethol yn Bab yn 1389 i olynu'r Pab Urbanus VI mewn gwrthwynebiad i'r Gwrth-bab Clement VII yn Avignon yn ystod Y Sgism Fawr (1378–1417). Nid oedd ganddo lawer o brofiad fel gweinyddwr eglwysig a bu ganddo enw am gamreoli despotig. Fe'i olynwyd gan Pab Innocentius VII.
Pab Boniffas IX | |
---|---|
Ganwyd | 1356 Napoli |
Bu farw | 1 Hydref 1404 Rhufain |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig |
Swydd | pab |
Tad | NN Tomacelli |
Cyfarfu'r hanesydd Cymreig Adda o Frynbuga ag ef yn ystod ei arosiad yn Rhufain.
Rhagflaenydd: Urbanus VI |
Pab 3 Tachwedd 1389 – 1 Hydref 1404 |
Olynydd: Innocentius VII |