Pab Grigor I
Pab Grigor I, a elwir hefyd yn Grigor Fawr neu Gregor(i) Fawr (c. 540 – 12 Mawrth 604) oedd Pab Rhufain o 590 hyd ei farwolaeth. Mae'r eglwys yn ei gyfrif yn sant a Thad Eglwysig; ei wylmabsant yw 12 Mawrth. Cafodd ei eni yn Rhufain.
Pab Grigor I | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
c. 0540 ![]() Rhufain ![]() |
Bu farw |
12 Mawrth 0604 ![]() Rhufain ![]() |
Man preswyl |
Rhufain ![]() |
Galwedigaeth |
diplomydd, offeiriad Catholig, pab, ysgrifennwr ![]() |
Swydd |
pab, pab ![]() |
Adnabyddus am |
Ymgomiau ![]() |
Dydd gŵyl |
12 Mawrth, 25 Mawrth, 3 Medi ![]() |
Mam |
Santes Silvia ![]() |
Llinach |
Anicia gens ![]() |
Yn ôl traddodiad, gwelodd gaethweision ifainc o Eingl-Sacsoniaid mewn marchnad caethweision yn Rhufain a phenderfynodd anfon cenhadwr i Brydain i droi'r Eingl-Sacsoniaid yn Gristnogion. Y gŵr a ddewisodd oedd Awstin, a fyddai'n archesgob cyntaf Caergaint yn ddiweddarach.
Roedd Grigor yn ddyn caredig iawn a weithiai i wella cyflwr y tlodion. Yn ogystal gwnaeth lawer i ddiwygio trefn yr eglwys. Roedd hefyd yn awdur yn yr iaith Ladin a ysgrifennodd homilïau ar Eseciel a'r Efengylau, llyfr ar reolau'r eglwys (Cura Pastoralis) a'r gweithiau ar gyfer gwasnanaethau eglwysig y Sacramentarium a'r Antiphonarium.
Yr enw cyffredin ar y Pab Grigor yng Nghymru'r Oesoedd Canol oedd Geirioel. Dyma gyfeiriad ato mewn awdl gan Iolo Goch i Dafydd ap Bleddyn, Esgob Llanelwy:
- Da fu heb gelu Coel Godebawg,
- Da Eirioel enau, eiriau oriawg,
- Ac ys gwell gâr pell, gŵr pwyllawg — balchryw,
- Ni bu ei gyfryw, llyw galluawg;
- Os rhaid mynegi pwy rhi yrhawg,
- Dafydd ap Bleddyn yw'r dyn doniawg.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd XVIII.12–17.
Rhagflaenydd: Pab Pelagiws II |
Pab 3 Medi 590 – 12 Mawrth 604 |
Olynydd: Pab Sabinianws |