Pabi coch (symbol)

Mae'r pabi coch yn cael ei ddefnyddio ers 1920 i gofio milwyr a laddwyd ar faes y gad. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, sylwyd bod blodyn y pabi coch yn arbennig o gyffredin o gwmpas y rhesi o feddi milwyr yng ngogledd Ffrainc a Gwlad Belg, ac felly penderfynwyd y byddai'n symbol addas o goffadwriaeth o'r "Rhyfel Mawr". Yng ngwledydd Prydain mae'r pabi'n cael ei werthu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, elusen sy'n ymgyrchu dros hawliau cyn-filwyr. Mae'n cael ei wisgo fel bathodyn ar Sul y Cofio ac am wythnos neu ddwy cyn hynny.

Ar ddechrau mis Tachwedd mae'r pabi i'w weld yn gyffredin iawn ar wisg cyflwynwyr teledu, gwleidyddion ac ati. Dywedir bod "rheol anysgrifenedig" sy'n golygu bod disgwyl i unrhyw un sy'n ymddangos ar y BBC wisgo pabi coch yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae rhai yn dadlau bod y pabi coch fel symbol o gofio yn cael ei gamddefnyddio, a'i fod yn cael ei ddefnyddio i glodfori rhyfel ac fel rhan o ddiwylliant o gyfiawnhau rhyfela yn y cyfnod presennol. Mae rhai yn dewis gwisgo pabi gwyn yn lle'r pabi coch; mae'r pabi gwyn yn cael ei wisgo i gofio'r rhai a fu farw ar faes y gad, ond gan ddadlau hefyd dros heddwch ac yn erbyn rhyfel.

Arddangosfa Taith y Pabi Coch Castell Caernarfon 11 Hydref - 20 Tachwedd 2016

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu