Y diwrnod y cofir ym Mhrydain am y rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd yw Sul y Cofio. Mae ei union ddyddiad yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. I ddechrau, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn cael ei ddathlu fel Diwrnod y Cadoediad (11 Tachwedd), ond ym 1945 newidiwyd yr enw i Sul y Cofio. Ers 1956 mae'n cael ei nodi ar y dydd Sul cyntaf ar ôl Diwrnod y Cadoediad (fel arfer ail ddydd Sul mis Tachwedd).

Munud o dawelwch yn Senedd Cymru, 2009
Gorymdaith Diwrnod y Cadoediad yn y Drenewydd. Ffotograff gan Geoff Charles (1940).

Mae dau funud o ddistawrwydd am 11 o'r gloch y bore o flaen y Senotaff yn Llundain yn cofio llofnodi'r cadoediad a ddaeth â'r Rhyfel Byd Cyntaf i ben ar 11 Tachwedd 1918. Bydd pobl yn gwisgo bathodyn y pabi coch a rhoddir torchau o'r pabi coch o flaen y Senotaff ac ar gofebion rhyfel ledled gwledydd Prydain.

Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato