Mae'r pabi gwyn yn cael ei ddefnyddio i gofio'r rhai a fu farw ar faes y gad, ac fel symbol o heddwch a heddychiaeth. Cafodd ei greu mewn ymateb i'r pabi coch gan rai oedd yn teimlo bod cysylltiad rhy agos rhwng y pabi coch a'r lluoedd arfog, a'i fod yn cael ei ddefnyddio i glodfori rhyfelgarwch ac i gyfiawnhau rhyfela yn y cyfnod modern. Nid dim ond milwyr sy'n cael eu cofio drwy'r pabi gwyn, ond pawb sydd wedi marw oherwydd rhyfel. Mae'r gair 'hedd' wedi ei ysgrifennu yng nghanol y pabi gwyn; mae gwisgo pabi gwyn yn arwydd o wrthwynebiad i ryfel.

Pabi gwyn a adawyd ar Gofeb Waitati, Seland Newydd, ar Sul y Cofio, 2009.

Mae'r pabi gwyn, fel y pabi coch, yn fater dadleuol. Mae rhai'n ei weld fel ymosodiad ar filwyr sy'n aberthu eu bywydau mewn rhyfel. Pan oedd yn Brif Weinidog Prydain, mynegodd Margaret Thatcher "atgasedd" at y pabi gwyn.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu