Paloma Costa

ymgyrchydd yn erbyn newid hinsawdd

Mae Paloma Costa Oliveira yn fyfyriwr y gyfraith o Frasil; mae hi'n sosio-amgylcheddwr, yn seiclwraig brwd ac yn addysgwr ym maes newid hinsawdd.[1] Mae hi'n un o'r saith arweinydd hinsawdd ifanc (18-28 oed) a benodwyd gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, i Grŵp Cynghori Ieuenctid ar weithredu byd-eang i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a rhwystro newid yn yr hinsawdd.[2][3]

Paloma Costa
Paloma ar y chwith, gyda Greta Thunberg ar y dde, yn siarad yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig
Ganwyd1992 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Brasil Brasil
Galwedigaethamgylcheddwr Edit this on Wikidata

Gweithredu

golygu

Yn 2019, ochr yn ochr â’r ymgyrchydd Greta Thunberg, traddododd Paloma araith yn agoriad yr Uwchgynhadledd Gweithredu Hinsawdd, yn Ninas Efrog Newydd. Fe'i beirniadwyd am ei datganiad "Nid oes angen gweddïau arnom, mae angen gweithredu arnom", a oedd yn cael ei ddeall gan rai fel un gwrth-grefyddol. "Fy mhwynt", eglurodd, "oedd ei bod yn ddi-werth parhau i bostio #prayforamazonia ar Twitter, heb roi'r gorau i fwyta'r cig sy'n dod o ddatgoedwigo".[4] Roedd Costa yn teimlo'n gadarnhaol am y profiad, ond yn siomedig ar y cyfan: "Prin bod unrhyw ymrwymiad wedi'i wneud... ni chyffyrddodd unrhyw beth â fy nghalon mewn gwirionedd." Adroddodd ei bod wedi siarad yn fyr ag Angela Merkel a Michelle Bachelet, tra na fyddai unrhyw gynrychiolwyr o weinyddiaeth Bolsonaro ei gwlad ei hun yn barod i'w sgwrsio â hi.[5]

Mewn cyfweliad, mae Costa wedi datgan na fyddai hi 'am yr holl arian sy'n y byd' yn gweithio i gwmni sy'n hwyluso datgoedwigo yn yr Amazon. Ar ben hynny, penderfynodd roi'r gorau i fwyta cig cyn gynted ag y dysgodd am y berthynas rhwng y gadwyn gyflenwi cig eidion a datgoedwigo. Mae hi hefyd yn dweud ei bod yn defnyddio beic ar gyfer ei chymudo bob dydd pryd bynnag y gall, yn ogystal â mynd i bartïon.[6]

Mae Costa yn gyn-fyfyriwr cyfnewid i brifysgol yn Tsili ac mae wedi bod yn intern gyda Goruchaf Lys Chile.[7] Mae hi'n gysylltiedig ag Instituto Socioambiental (Sefydliad Cymdeithasol-amgylcheddol), sefydliad dan arweiniad ieuenctid Engajamundo, prosiect Ciclimáticos, a gyd-sefydlodd a mudiad Archifwyd 2021-04-27 yn y Peiriant Wayback #FreeTheFuture.[8]

Yn yr un modd â phandemig COVID-19, rydyn ni i gyd yn agored i effeithiau argyfwng newid hinsawdd. Rhaid inni ddeall mai ni yw iachâd y Ddaear ac, felly, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r heriau cronnus sy'n wynebu'r blaned.[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Jovem ativista brasileira abre cúpula de clima da ONU, em Nova York". ISA - Instituto Socioambiental. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-16. Cyrchwyd 2021-05-21.
  2. Blazhevska, Vesna. "Young leaders tapped to invigorate UN's climate action plans, hold leaders to account".
  3. "Estudante do DF é única brasileira em Grupo Consultivo da ONU sobre mudança climática". G1.
  4. "Uma jovem na ONU: Paloma Costa discursou em NY ao lado de Greta Thunberg e é uma das ativistas em grupo de consultores da ONU". www.uol.com.br.
  5. "Brasileira que abriu discursos na Cúpula do Clima sai decepcionada: 'Resultado foi pouco para o que precisamos'". O Globo. September 23, 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-19. Cyrchwyd 2021-05-21.
  6. "Conheça Paloma Costa, a brasileira que falou na ONU sobre Emergência Climática". Greenpeace Brasil.
  7. "Jovem ativista brasileira abre cúpula de clima da ONU, em Nova York". ISA - Instituto Socioambiental. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-16. Cyrchwyd 2021-05-21.
  8. "Uma jovem na ONU: Paloma Costa discursou em NY ao lado de Greta Thunberg e é uma das ativistas em grupo de consultores da ONU". www.uol.com.br.
  9. un.org; adalwyd 21 Mai 2021