Pamir
Mynyddoedd yn nwyrain Tajicistan, gyda rhannau llai yn nwyrain Affganistan a gogledd Pacistan yw mynyddoedd y Pamir. Mae'n cysylltu a mynyddoedd y Karakoram yn y de-ddwyarain, yr Hindu Kush yn y de-orllewin a'r Tien Shan yn y gogledd-ddwyrain.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Gwlad | Cirgistan, Tajicistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Affganistan, India, Pacistan |
Arwynebedd | 120,000 km² |
Uwch y môr | 7,649 metr |
Cyfesurynnau | 39°N 72°E |
Hyd | 500 cilometr |
Cyfnod daearegol | Carbonifferaidd |
Y copa uchaf yw Copa Ismail Samani, 7,495 medr uwch lefel y môr. Yr ail-uchaf yw Copa Lenin (7,134 medr). Gorchuddir rhan helaeth o'r mynyddoedd gan eira parhaol. Ceir diwydiant glo yn y rhan orllewinol, ond cadw defaid yw'r ffynhonnell incwm bwysicaf.
Yn 1964 adeiladodd y Rwsiaid ffordd 720 km o hyd o Osj i Chorog, sy'n codi i uchder o fwy na 4,500 medr.