Pan yw'r fwyaf mewnol o loerennau Sadwrn a wyddys:

  • Cylchdro: 133,583 km oddi wrth Sadwrn
  • Tryfesur: 20 km
  • Cynhwysedd: ?
Pan
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Sadwrn, shepherd moon, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs5 ±2 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod22 Awst 1981 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaEncke Gap Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun o'r lloeren Pan gyda modrwyau Sadwrn

Roedd y duw Pan yn dduw coedwigoedd, caeau a phreiddiau ym mytholeg Roeg. Roedd ganddo dorso a phen dynol gyda chlustiau, cyrn a choesau gafr.

Darganfuwyd y lloeren Pan gan Mark R. Showalter ym 1990 o ffotograffau Voyager.

Mae Pan yn cylchio o fewn gwahaniad Encke ym modrwy A Sadwrn.

Mae lloerennau bach sy'n agos i'r modrwyau'n cynhyrchu patrymau o donnau yn y modrwyau. Cyn darganfod Pan, roedd dadansoddiad o'r patrymau ar gyrion modrwy A Sadwrn wedi rhagweld maint a lleoliad lloeren fach. Cafodd Pan ei darganfod trwy ailarchwilio ffotograffau 10 mlwydd oed Voyager o'r lleoliad.

Mae'n bosibl bod yna chwaneg o loerennau o fewn modrwyau Sadwrn sydd eto heb eu darganfod.