Pantheon
Teml, a drowyd yn eglwys, yn Rhufain yw'r Pantheon (Lladin Pantheon, o'r Groeg Πάνθεον Pantheon, yn golygu "Teml yr holl dduwiau"). Adeiladwyd y Pantheon fel teml i saith duw y saith planed yng ngrefydd wladwriaethol Rhufain. Mae'n parhau mewn cyflwr da, wedi ei gadw'n well nag unrhyw adeilad Rhufeinig arall ac efallai'n well nag unrhyw adeilad arall o'i oed yn y byd.
Math | teml Rufeinig, safle archaeolegol Rhufeinig, atyniad twristaidd, basilica minor, secularized religious building, adeilad Rhufeinig, amgueddfa grefyddol, Italian national museum, archaeological artifact museum, historical civil building museum, Museum of the Italian Ministry of Culture |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Pigna |
Sir | Rhufain |
Gwlad | yr Eidal |
Arwynebedd | 2,000 m², 1,500 m² |
Cyfesurynnau | 41.8986°N 12.4769°E |
Cod post | 00186 |
Hyd | 35 metr |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Rufeinig |
Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
Manylion | |
Deunydd | concrit |
Esgobaeth | Esgobaeth Rhufain |
- Am ystyron eraill, gweler Pantheon (gwahaniaethu)
Adeiladwyd yr adeilad presennol ar seiliau adeilad blaenorol, a godwyd gan Agrippa tua 27 CC. Llosgwyd yr adeilad hwn yn 80 OC., a thua 117 dechreuwyd ar y gwaith o godi adeilad newydd. Nid oes sicrwydd pwy oedd y prif bensaer, ond credir mai pensaer yr ymerawdwr Trajan, Apollodorus o Ddamascus, ydoedd. Gorffennwyd y gwaith tua 125 OC, yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr nesaf, Hadrian.
Ers cyfnod y Dadeni, mae wedi ei ddefnyddio fel man claddu i nifer o bobl enwog, yn arbennig yr arlunydd Raffael. Mae dau o frenhinoedd yr Eidal, Vittorio Emanuele II a Umberto I, wedi eu claddu yno hefyd.