Raffaello Sanzio
Arlunydd a phensaer Eidalaidd oedd Raffaello Sanzio, weithiau Raffaello Santi, a adwaenir fel rheol fel Raffael (28 Mawrth neu 6 Ebrill 1483 – 6 Ebrill, 1520). Ystyrir ef, gyda Michelangelo a Leonardo da Vinci, yn un o'r triawd o feistri o'r cyfnod yma yn yr Eidal. Er iddo farw yn gynharol ieuanc, yn 37 oed, roedd yn arlunydd cynhyrchiol iawn, ac mae llawer o'i waith wedi ei gadw, yn enwedig yn y Fatican.
Raffaello Sanzio | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Raffaello Sanzio ![]() 6 Ebrill 1483, 28 Mawrth 1483 ![]() Urbino ![]() |
Bu farw | 6 Ebrill 1520 ![]() o methiant y galon ![]() Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ![]() |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, pensaer, drafftsmon, drafftsmon, cynllunydd ![]() |
Adnabyddus am | La fornarina, Ysgol Athen, Stanze di Raffaello, Resurrection of Christ, Y Forwyn a'r Plentyn, Priodas y Forwyn Fair, Madonna del Granduca, Madonna of the Goldfinch, Madonna del Prato, The Deposition, Madonna Sistina, The Transfiguration, Portrait of Baldassare Castiglione ![]() |
Arddull | peintio hanesyddol, portread (paentiad), portread, alegori, celfyddyd grefyddol, paentiad mytholegol ![]() |
Mudiad | y Dadeni Eidalaidd, yr Uchel Ddadeni ![]() |
Tad | Giovanni Santi ![]() |
Partner | Margarita Luti ![]() |
Gwobr/au | Urdd y Sbardyn Aur ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ganed ef yn Urbino yng nghanolbarth yr Eidal. Roedd ei dad, Giovanni Santi, yn arlunydd i Ddug Urbino. Bu farw ei fam, Màgia, yn 1491, a'i dad yn 1494. Rhwng 1504 a 1508 bu'n astudio a gweithio yn Fflorens, cyn treulio ei ddeuddeg mlynedd olaf yn Rhufain, lle bu'n gweithio i ddau Bab.
Ysgol Athen (1509–1511), Stanza della Segnatura
Portread o Elisabetta Gonzaga (tua 1504)
Portread o'r Pab Iŵl II (tua 1512)
Portread o Baldassare Castiglione (tua 1515)