Panto 85
Cwmni annibynnol a sefydlwyd ym 1984 gan Gyngor Celfyddydau Cymru oedd Panto 85, er mwyn llwyfannu'r pantomeim blynyddol yng Nghymru. Yn dilyn diwedd Cwmni Theatr Cymru yn gynharach yr un flwyddyn, bu'n rhaid creu cwmni er mwyn gweinyddu a chynhyrchu'r panto Rwj Raj ar gyfer y Gaeaf 1984-1985.
Dyddiad cynharaf | 1984 |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | Rwj Raj |
Dod i ben | 1985 |
Pwnc | cwmni busnes |
Genre | Pantomeim |
Y cyfarwyddwr cerdd Dilwyn Roberts, sy'n cofio'r cyfnod, a'r gwahoddiad i Fangor i drafod y sioe:
"Daeth galwad ffôn o Fangor i godi calon Emyr [Gari Williams] a mi, roedd Cyngor Celfyddydau Cymru eisiau pantomeim arall. Gofynwyd i'r ddau ohonom fynd i gyfarfod ym Mangor gyda Gruffudd Jones [cyfarwyddwr], Mari Gwilym, Susan Waters a Gwynfryn Davies. Roedd hi'n braf i weld wynebau cyfarwydd o ddyddiau cynnar y pantos eto. Penodwyd Gwynfryn a Susan fel rheolwyr cynhyrchu i'r cwmni newydd a grëwyd gan Gyngor y Celfyddydau - Panto 85. Roedd Gruff, Emyr a Mari yng ngofal y sgript a ges innau'r cyfrifoldeb o gyfansoddi'r gerddoriaeth. Theatr Clwyd oedd yn gyfrifol am y gweinyddu a'r cyflogau. Bu'n rhaid cyflwyno'r sgript erbyn canol mis Medi [1984] ac fe gydweithiodd Emyr a finna ar y caneuon drwy fis Awst."[1]
Cynyrchiadau nodedig
golyguUn cynhyrchiad a lwyfannodd y cwmni sef y pantomeim Rwj Raj ar ddiwedd 1984 a Gwanwyn 1985.
Sefydlwyd Cwmni 85 i lwyfannu Pan Rwyga'r Llen yn ddiweddarach ym 1985.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Emyr and Elwyn's Story: Ep 06". Emyr and Elwyn's Story: Ep 06 (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.