Pan Rwyga'r Llen
Drama lwyfan hir gan T James Jones yw Pan Rwyga'r Llen, gafodd ei chomisiynu gan Gymdeithas Theatr Cymru ym 1985. Llwyfannwyd y ddrama gan gwmni theatr dros-dro Cwmni 85. Cyhoeddwyd y ddrama yn Hydref 1985 gan Wasg Carreg Gwalch.
Awdur | T. James Jones |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Hydref 1985 |
Genre | Drama |
Disgrifiad byr
golygu"Digwydd y chwarae nos lau a Gwener y Groglith mewn Ysbyty'r Meddwl" yn ôl y manylion yn y ddrama gyhoeddedig.[1]
Cefndir
golygu"Carwn ddiolch i Gymdeithas Theatr Cymru am y comisiwn, ac i Gyngor y Celfyddydau am ei arddel" medde'r dramodydd, ar gychwyn y gyfrol.[1] "Y mae fy nyled yn fawr hefyd i holl aelodau Cwmni 85 am bob cydweithrediad ar gyfer Ilwyfannu'r ddrama am y tro cyntaf yn Theatr Clwyd, Mawrth 1985 a'i theithio wedyn. Gwerthfawrogaf yn ogystal, gymorth Huw Roberts fel golygydd y sgript wreiddiol, awgrymiadau gwerthfawr y cast i'w gwella, a chaniatâd Dafydd Iwan i ddefnyddio Gad Fi'n Llonydd."[1]
"Fel yn ei ddramâu eraill, mae'r alegori sydd yn Pan Rwyga'r Llen yn rymus ac yn byrlymu o brofiadau theatrig" yn ôl y dramodydd Gwenlyn Parry. "Bellach mae'r awdur wedi bod yn aelod o adran ddrama'r BBC am dros dair blynedd ac fe welwch ddylanwad y ddrama deledu ar saerniaeth y greadigaeth hon o'i eiddo. Er bod pwnc y ddrama yn un trist a difrifol iawn, mae T. James Jones o hyd ac o hyd yn peri inni chwerthin nid yn unig gyda chymeriadau fel Wil Albert a Martin, ond hefyd am ben y pethau rhagrithiol rheini y mae'n cymdeithas mor llawn ohonynt."[1]
Cymeriadau
golygu- Gwen - Gwraig y Caplan (39)
- Martin - Claf (33)
- Nest - Sister (32)
- Siân - Nyrs (20)
- Y Caplan - (45)
- Dafydd - Mab (21)
- Wil Albert - Claf (60)
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y ddrama gan gwmni theatr Cwmni 85 ym mis Mawrth 1985. Cyfarwyddwr T James Jones; cynllunydd Martin Morley; goleuo Robert H Jones; rheolwyr llwyfan Gwynfryn Davies, Susan Waters a Wyn Williams; gwisgoedd Janet Hooke; saer Buckley Wyn Jones; gweinyddydd Elinor Roberts; cast:
- Gwen - Sharon Morgan
- Martin - Ifan Huw Dafydd
- Nest - Eirlys Britton
- Siân - Mair Rowlands
- Y Caplan - Huw Ceredig
- Dafydd - Geraint Lewis
- Wil Albert - Ronnie Williams
Gwnaeth y ddrama "argraff ddofn ar ei chynulleidfa" yn ôl y dramodydd Gwenlyn Parry.[1]