Papyr Newydd Cymraeg
Papur newydd Cymraeg 1836-1837
Roedd Y Papyr Newydd Cymraeg yn bapur misol a gyhoeddwyd o ddechrau'r flwyddyn 1836 hyd ganol 1837. Fe'i cyhoeddwyd gan Hugh Hughes (Cristion),[1] yr arlunydd, o stiwdio roedd yn cadw yng Nghaernarfon am gyfnod byr. Cristion fu'n gyfrifol am y rhan fwyaf o gynnwys y papur hefyd er ei fod yn derbyn rhywfaint o gymorth yn y gwaith gan William Williams (Caledfryn)[2]. Dim ond pymtheg rhifyn o'r papur cafodd eu cyhoeddi.[3]
Enghraifft o'r canlynol | papur newydd |
---|---|
Cyhoeddwr | Hugh Hughes |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 22 Medi 1836 |
Dechrau/Sefydlu | 1836 |
Rhagflaenwyd gan | Y Seren ogleddol |
Lleoliad cyhoeddi | Caernarfon |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "HUGHES, HUGH (1790 - 1863), arlunydd ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-04-09.
- ↑ "WILLIAMS, WILLIAM ('Caledfryn '; 1801 - 1869), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a beirniad | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-04-09.
- ↑ Jones, Thomas Morris (Gwenallt) (1893). Llenyddiaeth fy ngwlad. Treffynnon: P M Evans. t. 13.