Parc Bletchley

atyniad twristaidd yn Lloegr

Ystad yn nhref Bletchley yn Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr, ydy Bletchley Park, a adwaenir hefyd fel Station X. Ers 1967, mae Bletchley wedi bod yn rhan o dref newydd Milton Keynes.

Parc Bletchley
Mathamgueddfa tŷ hanesyddol, tŷ bonedd Seisnig, amgueddfa filwrol, parc, atyniad twristaidd, amgueddfa annibynnol Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1938 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1877 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBletchley Edit this on Wikidata
SirMilton Keynes Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.99649°N 0.74256°W Edit this on Wikidata
Map

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd prif sefydliad dadgodio'r Deyrnas Unedig wedi'i lleoli ym Mharc Bletchley. Dadgodiwyd codau a seiffrau nifer o wledydd yr Axis, ac yn fwyaf arwyddocaol peiriannau Lorenz ac Enigma'r Almaenwyr.

Ystyrir bod y wybodaeth gyfrinachol a ddarganfuwyd ym Mharc Bletchley, o dan yr enw côd "Ultra", wedi darparu cymorth amhrisiadwy i ymdrechion rhyfel y Cyngrheiriaid gan fyrhau hyd y rhyfel. Serch hynny, mae union ddylanwad Ultra yn parhau i gael ei drafod a'i astudio.

Bellach mae Parc Bletchley yn amgueddfa o dan ofal Ymddiriedolaeth Parc Bletchley. Mae ar agor i'r cyhoedd. Gellir defnyddio'r prif dŷ am weithgareddau a seremonïau. Defnyddia'r Ymddiriedolaeth peth o'r arian a godir drwy logi'r cyfleusterau er mwyn cynnal a chadw'r amgueddfa.

Bu nifer o Gymry yn gweithio yno, yn cynnwys Mair Russell-Jones, Vernon Watkins, Roy Jenkins, Daniel Jones a Bryn Newton-John.

Dolenni allanol

golygu