Parc Cenedlaethol Doñana

Saif Parc Cenedlaethol Doñana (Sbaeneg:Parque nacional de Doñana) yn ne-orllewin Sbaen, yng nghymuned ymreolaethol Andalucía, gerllaw aber Afon Guadalquivir. Mae'r rhan fwyaf yn nhalaith Huelva, ac ychydig o'r parc yn nhalaith Sevilla. Mae arwynebedd y parc yn 53,709 hectar. Yn 1994 fe'i cyhoeddwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Parc Cenedlaethol Doñana
Mathparc cenedlaethol Sbaen, safle o ddiddordeb cymunedol, Ardal Gadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig, European Diploma of Protected Areas, gwarchodfa bïosffer, safle Ramsar, ardal gadwriaethol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAna Gómez de Silva y de Mendoza Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16 Hydref 1969 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRhwydwaith o Barciau Cenedlaethol Sbaen, Natura 2000, Natura 2000 yn Sbaen Edit this on Wikidata
LleoliadTalaith Huelva, Talaith Sevilla, Talaith Cádiz Edit this on Wikidata
SirAndalucía Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd54,252 ha, 53,303.56529 ha Edit this on Wikidata
GerllawGwlff Cadiz, Afon Guadalquivir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.02°N 6.44°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganGweinyddiaeth Amgylchedd Sbaen, Andalucía Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar, Red List of Endangered Heritage item, Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Y Doñana o Afon Guadalquivir

Ystyrir y parc yn un o warchodfeydd natur pwysicaf Ewrop. Yn y gaeaf, mae tua 200,000 o adar dŵr ar y gwlybdiroedd sy'n rhan helaeth o'r parc. Ymhlith yr amrywiaeth o fywyd gwyllt mae 20 rhywogaeth o bysgodyn, 37 rhywogaeth o famal a 360 rhywogaeth o aderyn, gyda 127 ohonynt yn nythu yno.

Credir fod enw'r parc yn dod o "Doña Ana", sef Doña Ana de Mendoza y Silva, gwraig seithfed Dug Medina Sidonia, Don Alonso Pérez de Guzmán, oedd yn berchennog y tiroedd yma.