Parc Eirias
Parc cyhoeddus 50 erw ym Mae Colwyn, Sir Conwy, yw Parc Eirias (Saesneg: Eirias Park). Bu'n adnabyddus ar un adeg fel parcdir agored gyda gerddi a llyn cychod poblogaidd ond mae wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau chwaraeon a gweithgareddau hamdden gogledd Cymru. Mae'r enw lle Eirias yn cyfeirio at ardal ganoloesol.
Math | lleoliad chwaraeon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2911°N 3.7127°W |
Cod OS | SH857783 |
Lleolir pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ar safle ger y parc.
Cyfleusterau chwaraeon
golyguLleolir Canolfan Hamdden Colwyn yn y parc, lle ceir pwll nofio chwech lôn 25 metr gyda sleid dŵr. Yn ogystal ceir canolfan ffitrwydd ac iechyd, sawna, stafell stêm a phwll sba dŵr cynnes.
Ger y Ganolfan ceir Stadiwm Athletau a Chwaraeon gyda grandstand a llifoleuadau gyda maes chwarae synthetig pêl-droed a hoci. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys cyrtiau tenis, lawnt bowlio, y llyn cychod gwreiddiol, maes chwarae plant ac ardal picnic.
Mae C.P.D. Bae Colwyn wedi defnyddio caeau ym Mharc Eirias tair gwaith yn y gorffennol. Bu'r Stadiwn yn gartref i'r clwb yn y 1980au cyn iddynt symud i faes Ffordd Llanelian.
Cyhoeddwyd cynllun i adeiladu trac seiclo dan-do yn 2007.[1]
Clustnodir y Stadiwm gan Undeb Rygbi Cymru fel lleoliad tebygol 'RGC 1404', y tîm rygbi rhanbarthol a fydd yn dod yn bumed dîm rygbi rhanbarthol Cymru os ydy'r cynllun yn gweithio.[2][3] Mewn canlyniad, bwriedir uwchraddio'r stadiwm yn sylweddol i gwrdd â'r gofynion.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Proposed Closed Road Circuit - Eirias Park Cycle Circuit Latest News. Beicio Cymru (3 Mai 2007).
- ↑ New home for North Wales rugby revealed. Western Mail (11 Rhagfyr 2008).
- ↑ Colwyn Bay venue for rugby team dyddiad=11 Rhagfyr 2008. BBC.
- ↑ Tim Channon (11 Rhagfyr 2008). Rugby: WRU unveil Parc Eirias as home of North Wales rugby. North Wales Weekly News.