Parc Gwledig Talkin Tarn

Mae Parc Gwledig Talkin Tarn yn barc gwledig, 9 milltir i’r dwyrain o Gaerliwelydd a 2 milltir i’r de o Brampton. Mae’n cynnwys Talkin Tarn, sydd yn llyn 65 acer ynghanol 120 acer o dir fferm a choestir. Perchnogion y parc yw Cyngor Dinas Caerliwelydd.

Parc Gwledig Talkin Tarn
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr

Caniateir hwylio, rhwyfo a physgota ac mae cychod a beiciau mynydd ar log. Mae maes carafannau a phebyll ac ystafell te. Mae llwybr 1.3 milltir o hyd o gwmpas y tarn, addas i gadeiriau olwyn.[1] Defnyddir y tarn gan Glwb Hwylio Brampton a Chlwb Rhwyfo Amatur Talkin Tarn

Cyfeiriadau

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato