Caerliwelydd

dinas yn Cumbria, Lloegr

Dinas yng ngogledd-orllewin eithaf Lloegr, 16 km o'r ffin a'r Alban, a thref sirol hanesyddol Cumberland yw Caerliwelydd (Saesneg Carlisle,[1] Lladin Luguvalium). Heddiw mae'n rhan o ardal gweinyddol Dinas Caerliwelydd o fewn swydd Cumbria. Hon yw canolfan weinyddol yr ardal a'r swydd. Mae tua 70,000 o bobl yn byw yn y ddinas ei hun, tra bod 100,739 yn byw yn ardal gweinyddol Dinas Caerliwelydd (Cyfrifiad 2001).

Caerliwelydd
Carlisle Cathedral from the Air.jpg
Coat of Arms of Carlisle.svg
Mathdinas, tref sirol, ardal ddi-blwyf, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Caerliwelydd
Poblogaeth75,399 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iFlensburg, Słupsk Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd18.9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr28 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLockerbie Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.88°N 2.95°W Edit this on Wikidata
Cod OSNY395555 Edit this on Wikidata
Map

HanesGolygu

Mae Caerliwelydd yn sefyll ger pen gorllewinol Mur Hadrian. Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer o adeiladwaith pren tua OC 72 neu 73. Codwyd caer newydd yn ei lle tua OC 105. Yn 165 codwyd caer gerrig yn ei lle. Mae rhai haneswyr yn awgrymu mai Caerliwelydd oedd prifddinas Valentia, talaith Rufeinig o fewn Britannia a sefydlwyd yn 369, ond ni ellir profi hynny.

Mae'r enw Rhufeinig Luguvalium yn dynodi "mur neu le Llug" a thybir mai enw duw brodorol yw Llug. Yr enw Cymraeg yw Caerliwelydd, Caer Lliwelydd, a cheir mwy nag un enghraifft o'r enw personol Lliwelydd mewn testunau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol (e.e. Llwyddawg fab Lliwelydd yn Englynion y Beddau, Llyfr Du Caerfyrddin).

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

  • Amgueddfa Tŷ Tullie
  • Castell Caerliwelydd
  • Eglwys gadeiriol

EnwogionGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. British Place Names; adalwyd 22 Chwefror 2020

Dolen allanolGolygu