Parc Natural de Ses Salines d’Eivissa i Formentera
Mae Parc Natural de Ses Salines d’Eivissa i Formentera yn warchodfa natur ar yr Ynysoedd Balearig, sy'n cynnwys nifer fawr o bantiau heli ar Ynys Eivissa (Ibiza) ac Ynys Formentera ac mae hefyd yn cynnwys y môr rhwng yr ynysoedd. Mae’r parc yn cynnwys 2752.5 hectar o dir a 14028 hectar o fôr.[1]
Math | ardal gadwriaethol, natural park, Ardal Gadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig, safle o ddiddordeb cymunedol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ibiza, Biodiversity and Culture |
Sir | Balearic Islands |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 15,396.9 ha, 9,000.69 ha, 7,421.73 ha, 16,833.00716 ha |
Cyfesurynnau | 38.8°N 1.4261°E |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Y môr
golyguGwelir y planhigyn Posidonia yn y môr rhwng Eivissa a Formentera. Mae Posidonia yn gyfrifol am glirdeb y dŵr, mae'n gwarchod y traethau rhag erydiad ac yn rhoi lloches i greaduriaid y môr. Mae’r parc yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1999.[2]
Y tir
golyguMae mwyafrif planhigion yr ynysoedd yn bresennol yn y parc natural. Mae llwyni o binwydd a meryw yn gyffredin ar Formentera, a hefyd Fenigl y môr a phlanhigion twyni tywod symudol.[3]
Anifeiliaid ac adar
golyguGwelir tua 210 rhywogaeth o adar yn y parc, yn arbennig adar y dŵr, megis Fflamingo, Storc, Cwtyn hirgoes adeinddu, Chwibanogl ddu, Gwylan Audouin, Hwyaden ye eithin, Cambig, Cwtiad Caint ac Aderyn drycin Balearig. Mae gan Estany Pudent ar Formentera y Gwyach yddfddu. Mae’r Madfall Pityusig yn gyffredin dros yr ynysoedd. Gwelir hefyd Pathew’r ardd.[4] Mae 178 math o blanhigion ar tirwedd y parc, gan gynnwys pinwydd, llwyn eithin, planhigion y twyni tywod a’r rhai ar ben clogwyni. Mae gan Estany Pudent de Formentera un o’r gomunedau mwy o wyachod gwddw ddu yn Ewrop. Mae hefyd madfallod[5]
Mae’r ardal yn warchodfa, Es Freus d’Eivissa i Formentera, ers 28 Mai 1999. Mae’n rhan o’r rhwydwaith Natura 2000, yn Safle o Ddiddordeb Gomunedol ac yn ardal Gwarchodfa Arbennig i Adar. Mae pyllau heli Ses Salines ar restr Ramsar o wlyptiroedd o bwysicrwydd rhwngwladol.
Canolfan ddehongli Sant Francesc de Ses Salines
golyguMae’r eglwys yn ganolfan wybodaeth i’r parc natural, ac ar agor rhwng 10yb a 2yp o ddydd Mercher i ddydd Sul yn ystod y gaeaf, a bob dydd yn ystod yr haf.[6]
Hanes y Parc Natural
golyguPasiwyd nifer o ddeddfau ers y 170au er mwyn amddiffyn Ses Salines. Daeth yr ardal yn ardal a ddiddordeb ym 1991, yn cynnwys mwyafrif o’r parc, ac ym 1995 daeth Ses Sales yn warchodfa natur. Ac ar 19 Rhagfyr daeth yr ardal i gyd yn barc natural, o dan reolaeth Llywodraeth yr Ynysoedd Balearig.
Treftadaeth Ddywilliannol ac Ethnolegol y Parc
golyguGwelir olion gwareiddiadau hynafol ac olion traed hanes yn y parc natural. Mae safle UNESCO Ffoneciaidd Sa Caleta, pum tŵr amddiffynnol a phresenoldeb y diwydiant halen dros ran helaeth o'r tirlun.
Oriel
golygu-
Fflamingod
-
Chwibanogl ddu
-
Y cerflun o Pedro Hormigo
-
Madfall Pityusig
-
Cambig
-
Cwtyn hirgoes adeinddu
-
Penlôyn