Merywen
Juniperus communis | |
---|---|
Juniperus communis (is-rywogaeth communis) yn yr Iseldiroedd | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Pinophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Pinales |
Teulu: | Cupressaceae |
Genws: | Juniperus |
Rhywogaeth: | J. communis |
Enw deuenwol | |
Juniperus communis L. | |
Ardaloedd tyfu'r ferywen |
Conwydden fytholwyrdd o deulu'r cypreswydd yw'r ferywen[2] (Lladin: Juniperus communis). Fe’i helwir weithiau yn ferywen gyffredin er mwyn ei gwahaniaethu o'r 60 i 70 o rywogaethau eraill sydd yn y genws Juniperus, neu dylwyth y meryw. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys beryw, berywydd, eithin[en] bêr, neu eithin[en] y cwrw.[3]
Tyfir y ferywen ar draws hemisffer y gogledd: Gogledd America, Ewrop, gogledd Affrica, gogledd a gorllewin Asia, a Japan. Tyfir ar fryniau coediog, creigiog a sych, cyfordraethau a thywotiroedd, tarenni arforol, a llethrau a llwyfandiroedd agored. Gall wasgaru i mewn i gaeau a phorfaoedd, ac yn cael budd wrth i anifeiliaid bori'r tir. Mae'n goddef yr haul a'r gwynt, yn ymaddasu i lefelau pH, ac yn manteisio ar amgylcheddau llym lle nad oes fawr o gystadleuaeth. Tyfir mewn amrywiaeth eang o briddau gan gynnwys tywodydd asidig a chalchaidd a phriddglai.[4]
Tyfir yn goed neu’n prysgwydd gwasgarog. Mae ganddi ddail pigfain, miniog. Planhigyn deuoecaidd yw'r ferywen, hynny yw mae ganddi nodweddion y ddau ryw: blodau gwrywol sy'n felyn a chonigol, a blodau benywol sy'n wyrdd a chrwn. Mae'n rhaid tyfu'r ddau'n agos at ei gilydd er mwyn meithrin yr aeron meryw.[5] Mewn gwirionedd, megastrobilws neu foch coed crynion yw'r hadau hyn, nid aeron.[6] Pob dwy flynedd mae'r rhain yn aeddfedu. Cynaeafir aeron meryw ym misoedd Medi a Hydref, gan hel yr aeron gleision yn unig. Os sychir, mae'r rhain yn troi'n lliw glasddu ac ychydig yn grychlyd. Hwngari a De Ewrop, yn enwedig yr Eidal, yw'r prif wledydd sy'n cynhyrchu meryw.[5] Datblygwyd nifer o gyltifarau, er enghraifft gorachaidd a phyramidaidd.[7]
Roedd y ferywen wyllt yn un o'r planhigion cyntaf i gytrefu ynys Prydain ar ôl Oes yr Iâ.[8] Ers y 1970au bu dirywiad o 70% yng ngwledydd Prydain, yn debyg o ganlyniad i bori gormodol ynghŷd â cholli tir pori mewn ardaloedd eraill. Mae'n brin iawn yn awr yng Nghymru, ond yn parhau i dyfu ar Fryn Prestatyn er enghraifft.[9]
Defnydd dynol
golyguCrefydd ac ofergoelion
golyguYn hanesyddol roedd enw i'r meryw o fod yn warchodwr ac yn gyfaill i'r rhai mewn trafferth. Sonnir yr Hen Destament am brysgau meryw yn noddfa. Yn ôl chwedl Gristnogol, cafodd y baban Iesu ei roi mewn brigau llwyn meryw pan oedd ei deulu ar ffo. Anwybyddodd milwyr Herod rieni'r Iesu gan nad oeddent yn gweld y baban. Cysegrid y meryw felly i'r Forwyn Fair, ac yn yr Eidal crogir torchau a brigau'r meryw yn y stabl a'r beudy i gofio stori'r geni. Yn yr Oesoedd Canol cafodd brigau'r goeden eu hongian uwchben y drws i amddiffyn yn erbyn gwrachod, a'u llosgi i gadw nadroedd draw.[5]
Coginiaeth
golyguBlas chwerw-felys a sawr pêr sydd gan aeron meryw.[6] Defnyddir i gynhyrchu jin, gwirodlynnau, chwerwon, a chwrw Swedaidd. Dodir am sesnin ar adar megis hwyaden, cig carw, cig moch, cwningen, a chig oen. Defnyddir hefyd i flasu terinau a phates. Caiff yr aeron eu malu mewn melin bupur neu gyda breuan a phestl er mwyn rhoi mewn marinadau neu sesnin barbiciw,[5] ac yn gynhwysyn am stwffin.[6] Ychwanegir meryw mâl i deisenni ffrwyth megis teisen Nadolig a phwdin Nadolig. Yn aml mae'n cyd-fynd ag afalau, er enghraifft mewn pwdin briwsion neu darten ffrwythau.[5]
Meddyginiaeth
golyguYmddengys y ferywen mewn traddodiadau meddygol nifer o bobloedd frodorol Gogledd America, Ewrop ac Asia. Gwneid tonigau am afiechydon yr arennau a'r stumog yn Ewrasia, tonig gwaed gan frodorion y Basn Mawr, a thonigau am annwyd, y ffliw, cymalwst, poen cyhyrau ac afiechydon yr arennau yng Ngogledd Orllewin America.[4] Defnyddid y ferywen yn Ewrop i gynorthwyo cylchrediad y gwaed ac i roi hoen ieuenctid i'r henoed. Defnyddir hyd heddiw i drin colig, bol-wynt a'r gwynegon ac fel gwrthwenwyn am frathiadau neidr. Gwrth-haint cryf yw meryw ac fe'i defnyddir mewn pryfleiddiaid a phersawrau.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Juniperus communis. Rhestr Goch yr IUCN. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ meryw. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau: Juniperus communis. Llên Natur. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) Juniperus communis. Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 Morris, Sallie. The New Guide to Spices (Llundain, Lorenz, 1999), t. 55.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 (Saesneg) juniper. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ (Saesneg) juniper. The Columbia Encyclopedia. Encyclopedia.com (2016). Adalwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ Darganfod Sir Ddinbych. Cyngor Sir Ddinbych. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ Prosiect Merywen. Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Juniperus communis ar wefan y Gymdeithas Arddwrol Frenhinol (RHS)
- (Saesneg) Juniperus communis Archifwyd 2016-05-12 yn y Peiriant Wayback ar wefan Coed Cadw