Park House, Caerdydd
Adeilad rhestredig Gradd I yng Nghaerdydd yw Park House (a alwyd hefyd yn McConnochie's House[1] a Burges House[2]). Fe'i gynlluniwyd gan y pensaer William Burges ar gyfer John McConnochie, peiriannydd o'r Alban a fu'n gweithio i Ardalydd Bute yn nociau Caerdydd. Comisiynwyd Burges ym 1871 ond ni orffenwyd addurno'r tu fewn nes i McConnochie gael ei benodi'n Faer Caerdydd ym 1880.[1] Cymlluniwyd y tŷ yn yr arddull Gothig Ffrengig, a chafodd ddylanwad mawr ar bensaernïaeth tai Caerdydd.[3] Seiliodd Burges sawl manylyn yn ei dŷ ei hun yn Llundain, Tower House yn Holland Park, ar yr adeilad hwn. Ym marn yr hanesydd pesaernïol Henry-Russell Hitchcock, Park House oedd "one of the best medium-sized stone dwellings of the High Victorian Gothic".[4] Caiff ei ddefnyddio bellach fel clwb preifat.
Math | tŷ mewn tref, clwb |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 13 metr |
Cyfesurynnau | 51.4849°N 3.1756°W |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Crook 2013, t. 305
- ↑ (Saesneg) William Burges and Cardiff's Gothic Look. Cardiff Walking Tours. Adalwyd ar 13 Rhagfyr 2013.
- ↑ Newman 1995, tt. 218–9
- ↑ Hitchcock 1981, t. 267
Llyfryddiaeth
golygu- Crook, J. Mordaunt (2013). William Burges and the High Victorian Dream. Llundain: Frances Lincoln.CS1 maint: ref=harv (link)
- Hitchcock, Henry-Russell (1981). Architecture: Nineteenth and Twentieth Centuries. The Pelican History of Art. Harmondsworth: Penguin.CS1 maint: ref=harv (link)
- Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.CS1 maint: ref=harv (link)
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol.