William Burges
Pensaer a chynllunydd o Sais oedd William Burges (2 Rhagfyr 1827 – 20 Ebrill 1881), a gynlluniai yn yr arddull Gothig adfywiedig. Mae'n fwyaf adnabyddus am adfer Castell Caerdydd a Chastell Coch ar gyfer ei noddwr, Ardalydd Bute.[1]
William Burges | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 Rhagfyr 1827 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw | 20 Ebrill 1881 ![]() The Tower House ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pensaer, cynllunydd, dylunydd gemwaith, gemydd ![]() |
Adnabyddus am | Saint Fin Barre's Cathedral, Church of Christ the Consoler, St Michael and All Angels Church, Lowfield Heath ![]() |
Tad | Alfred Burges ![]() |
Cafodd ei eni yn Llundain, yn fab i'r peiriannydd sifil cyfoethog, Alfred Burges. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Coleg y Brenin, Llundain. Ffrind ysgol Dante Gabriel Rossetti oedd ef. Bu'n gweithio i'r pensaer Edward Blore yn yr Abaty San Steffan. Wedyn, bu'n gweithio i Matthew Digby Wyatt.[2]
Ni phriododd erioed. Bu farw yn 53 oed yn y "Gwely Coch" yn ei gartref, y "Tower House", Kensington.
-
Eglwys Gadeiriol Sant Fin Barre, Corc
-
Castell Coch, Caerdydd
-
Tower House, Llundain
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ (Saesneg) Prout, David (1996). Burges, William. Grove Dictionary of Art. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 17 Ionawr 2014.
- ↑ Smith, Helen (1984). Decorative painting in the domestic interior in England and Wales, c. 1850–1890 (yn Saesneg). Garland Pub. ISBN 978-0-8240-5986-6.
Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.