Ardal busnes yw Parry's Corner yn ninas Chennai, talaith Tamil Nadu, India. Cyfeirir ato yn aml fel "Parry's" ar lafar. Fe'i lleolir ger Chennai Port, ar gornel North Beach Road a NSC Bose Road.

Parry's Corner: pencadlys cwmni EID Parry

Fe'i enwir ar ôl Thomas Parry, marsiandïwr Cymreig o'r Trallwng a sefydlodd yr EID Parry Company yn 1787. Hyd heddiw mae pencadlys corfforaethol cwmni EID Parry yn sefyll ar y gornel. Mae Parry's Corner yn ganolfan bwysig i fancio marsiandïol a busnes yn Chennai a'r cylch. Yn ogystal, mae'n echel o bwys yn rhwydwaith bysus y ddinas. O ganlyniad, mae'n lle prysur iawn lle ceir traffig trwm a nifer o stondinau yn gwerthu bwyd a nwyddau amrywiol.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.