Thomas Parry (marsiandïwr)
Marsiandïwr o Gymru oedd Thomas Parry (1768 – 1824), sydd â lle pwysig yn hanes economi Tamil Nadu yn India.
Thomas Parry | |
---|---|
Ganwyd | 1768 Powys |
Bu farw | 24 Awst 1824 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person busnes |
Ganed Thomas Parry yn drydydd fab Edward Parry ac Anne Vaughan, o Blas Leighton, ger Y Trallwng ym Maldwyn (Powys). Dilynodd yrfa fel marsiandïwr. Pan sylweddolodd y botensial i fusnes a marsiandïaeth yn India, aeth Parry i ddinas Madras (Chennai), De India, ar ddiwedd y 1780au. Yno sefydlodd fusnes bancio a nwyddau ar 17 Gorffennaf 1788.[1] Bychan oedd y busnes yn y dechrau, ond tyfu a wnaeth a daeth 'Parry' yn enw cyfarwydd yn Chennai. Heddiw mae'r cwmni a sefydlodd yn dal i fynd, wrth yr enw (Cwmni) EID Parry. Dyma'r cwmni (sy'n dal i redeg) ail hynaf yn India heddiw.[2]
Enwir un o ardaloedd busnes canolog mwyaf Chennai ar ôl Thomas Parry, sef Parry's Corner (Cornel Parry). Lleolir pencadlys cwmni EID Parry yno o hyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "ENTERPRISE IN CHENNAI - DOWN THE AGES". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-26. Cyrchwyd 2009-07-22.
- ↑ "S. Muthia: "The house that Parry built"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-28. Cyrchwyd 2009-07-22.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) S. Muthia: "The house that Parry built" Archifwyd 2009-11-28 yn y Peiriant Wayback, erthygl yn The Hindu, 11 Rhagfyr 2002.