The Hindu
Papur newydd Indiaidd yw The Hindu. Mae'n bapur rhyddfrydol iaith Saesneg a sefydlwyd yn 1878 fel wythnosolyn ac a ddaeth yn bapur dyddiol yn 1889. Mae'n gwerthu tua 1,466,304 copi y dydd (2009) gyda tua 4.06 miliwn o ddarllenwyr. Lleolir y pencadlys yn Chennai (Madras), gyda swyddfeydd a chanolfannau cyhoeddi eraill yn ninasoedd Coimbatore, Bangalore, Hyderabad, Madurai, Delhi Newydd, Vizag, Thiruvanathapuram, Kochi, Vijayawada, Mangalore, Tiruchirapalli a Kolkata.[1]
Enghraifft o'r canlynol | papur newydd |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 1878 |
Sylfaenydd | G. Subramania Iyer |
Rhiant sefydliad | The Hindu Group |
Pencadlys | Chennai |
Gwefan | http://www.thehindu.com/, http://thehindu.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyhoeddir argraffiad ar-lein dyddiol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "About Us", The Hindu.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol (Saesneg)