Partneriaethau sifil yn y Deyrnas Unedig

(Ailgyfeiriad o Partneriaeth sifil)

Mae partneriaethau sifil yn y Deyrnas Unedig, a ganiateir dan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, yn rhoi cyplau cyfunryw hawliau a chyfrifoldebau sy'n unfath â phriodas sifil. Derbynnir partneriaid sifil yr un hawliau eiddo â chyplau anghyfunryw sy'n briod, yr un ryddhad oddi wrth dreth etifeddiaeth â chyplau priod, budd-daliadau nawdd cymdeithasol a phensiynau, a hefyd y gallu i ennill cyfrifoldeb rhieniol dros blant partner,[1] yn ogystal â chyfrifoldeb dros ofal rhesymol partner a'i blant/phlant, hawliau tenantiaeth, yswiriant bywyd llawn, hawliau perthynas agosaf mewn ysbytai, ac eraill. Bodolir proses ffurfiol ar gyfer diddymu partneriaethau sy'n debyg i ysgariad.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Gay couples to get joint rights. BBC (31 Mawrth, 2004). Adalwyd ar 16 Rhagfyr, 2007.

Cysylltiadau allanol golygu