Pasgen ap Cyngen
Brenin Powys yn rhan gyntaf y 6g oedd Pasgen ap Cyngen (bl. tua 530, efallai). Daeth i'r orsedd ar farwolaeth ei dad, Cyngen Glodrydd, ac olynwyd ef gan ei fab, Morgan ap Pasgen. Ychydig iawn a wyddys amdano heblaw'r achau traddodiadol.
Pasgen ap Cyngen | |
---|---|
Ganwyd | 500 |
Bu farw | 540 |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Cyngen Glodrydd |
Plant | Morgan ap Pasgen |
Os ydy'r dystiolaeth amdano yn ddilys, teyrnasodd mewn cyfnod pan oedd teyrnas Powys yn ymestyn dros y ffin bresennol i orllewin canolbarth Lloegr ac yn rhan o diriogaeth Frythonig a ymestynnai o'r Hen Ogledd hyd Dyfnaint a Chernyw. Roedd Pasgen ei hun yn un o'r Cadelling, disgynyddion Cadell Ddyrnllwg o'r Hen Ogledd, sefydlydd traddodiadol llinach frenhinol Powys yn ôl Nennius.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ifor Williams, Canu Taliesin (Caerdydd, 1960), tud. 19.