Cadell Ddyrnllwg
brenin teyrnas Powys
Yn ôl traddodiad, roedd Cadell Ddyrnllwg yn frenin Teyrnas Powys tua chanol y 5g.
Cadell Ddyrnllwg | |
---|---|
Ganwyd | 430 Cymru |
Bu farw | Unknown |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, teyrn |
Tad | Cadeyrn Fendigaid, Pasgen ap Rhydwf ap Rhuddfedyl Frych ap Cyndeyrn |
Priod | Gwenfyl |
Plant | Gwnfyw Frych ap Cadell Deyrnllwg ap Pasgen ap Rhydwf, Iddig ap Cadell Deyrnllwg ap Pasgen ap Cyndeyrn |
Dywedir ei fod yn fab i Cadeyrn Fendigaid. Dywedir iddo gael ei yrru o deyrnas ei dad gan ymosodwyr Gwyddelig, ac iddo ymguddio ymhlith y werin. Daeth yn was i bennaeth Gwyddelig o'r enw Benlli.
Dywedir i Sant Garmon, ar ei ymweliad a Phrydain, godi byddin i ymosod ar brifddinas Benlli, oedd yn bagan. Roedd gan Cadell dŷ bychan tu allan i'r muriau, a dangosodd letygarwch i Garmon. Dywedodd Garmon wrtho am adael y ddinas, a'r noson honno tarawyd plas Benlli gan fellten, a lledaenodd y tân i losgi'r ddinas. O ganlyniad, daeth Cadell yn frenin Powys.