Pasbort Nansen
(Ailgyfeiriad o Pasport Nansen)
Dogfen adnabod a roddwyd i ffoaduriaid heb ddinasyddiaeth gan Gynghrair y Cenhedloedd oedd pasbort Nansen.
Dyluniwyd ym 1921 gan y fforiwr a diplomydd Fridtjof Nansen. Enillodd Swyddfa Ryngwladol Nansen dros Ffoaduriaid Wobr Heddwch Nobel ym 1938 am ei hymdrechion i sefydlu pasbortau Nansen.
Bellach, mae'r Cenhedloedd Unedig yn rhoddi dogfennau tebyg i ffoaduriaid a phobl heb ddinasyddiaeth, megis y dystysgrif adnabod, dogfen deithio'r ffoadur, a laissez-passer y Cenhedloedd Unedig.