Gwobr Heddwch Nobel
Mae Gwobr Heddwch Nobel (Swedeg, Daneg a Norwyeg: Nobels fredspris) yn un o bum Gwobr Nobel a roddwyd gan y diwydiannwr a'r dyfeisiwr Swedaidd Alfred Nobel. Yn ôl ewyllys Nobel, dylid cyflwyno'r Wobr Heddwch "i'r person sydd wedi gwneud fwyaf neu'r gwaith gorau i hybu brawdgarwch ymysg cenhedloedd, i ddiddymu neu leihau byddinoedd ac am gynnal a hyrwyddo cynghreiriau heddychlon."[1]
Nododd Alfred Nobel y dylai'r wobr gael ei chyflwyno gan bwyllgor o bump o bobl i'w dewis gan Lywodraeth Norwy. Bryd hynny, roedd undeb rhwng Norwy a Sweden, a chyda Sweden yn gyfrifol am yr holl bolisi tramor, teimlai Nobel y byddai'r wobr yn llai tueddol o gael ei ddefnyddio am resymau gwleidyddol pe cawsai ei rhoi gan Norwy. Cyflwynir y Wobr Heddwch yn flynyddol yn Oslo, ym mhresenoldeb y Brenin, ar 10 Rhagfyr (sef dyddiad marwolaeth Nobel). Dyma yw'r unig Wobr Nobel na sydd yn cael ei chyflwyno yn Stockholm. Yn Oslo, cyflwyna Cadeirydd y Pwyllgor Nobel Norwyaidd y Wobr Heddwch Nobel ym mhresenoldeb Brenin Norwy. Yn llygad y cyfryngau rhyngwladol, derbynia'r enillydd Nobel (neu'r 'Llawryf' fel caiff ei alw weithiau) dri pheth: diploma, medal a dogfen sy'n cadarnhau gwerth y wobr. Cynhelir y Seremoni Gwobr Heddwch Nobel yn Neuadd y Ddinas, Oslo, a'r diwrnod canlynol cynhelir Cyngerdd Gwobr Heddwch Nobel, a ddarlledir i dros 450 miliwn o gartrefi mewn dros 150 o wledydd ledled y byd.
Weithiau, mae'r dewis o enillwyr Gwobr Heddwch Nobel yn ddadleuol, gyda honiadau o duedd gwleidyddol ac nad yw bob adeg yn gysylltiedig â heddwch e.e. cafwyd cryn anniddigrwydd gan bobl megis Mairead Corrigan pan roddwyd y Wobr i Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama. Mae'r enillwyr hefyd wedi cynnwys pobl a arferai ddefnyddio trais a therfysgaeth, ond a drodd eu cefn ar drais yn ddiweddarach er mwyn ceisio sicrhau heddwch.
Rhestr o enillwyr Gwobr Nobel am Heddwch
golyguDengys y rhestr isod bobl a enillodd Wobr Nobel am Heddwch:
- 1901
- Jean Henri Dunant, y Swistir am sefydlu'r Groes Goch ac am awgrymu Cytundeb Genefa
- Frédéric Passy, Ffrainc am sefydlu a fod yn arlywydd Société Française pour l'arbitrage entre nations.
- 1902
- Élie Ducommun y Swistir a Charles Albert Gobat, ysgrifenyddion mygedol y Permanent International Peace Bureau yn Berne.
- 1903
- Syr William Randal Cremer Y Deyrnas Unedig ysgrifennydd yr International Arbitration League.
- 1904
- 1905
- Bertha Sophie Felicitas Baronin von Suttner, née Iarlles Kinsky von Chinic und Tettau, Awstria, lenor ac arlywydd mygedol y Permanent International Peace Bureau.
- 1906
- Theodore Roosevelt, arlywydd yr Unol Daleithiau am ddraffrtio'r cytundeb heddwch ar ôl y rhyfel rhwng Rwsia a Siapan
- 1907
- Ernesto Teodoro Moneta, yr Eidal, arlywydd y Lombard League of Peace a
- Louis Renault, Ffrainc, athro prifysgol ym maes Cyfraith Ryngwladol
- 1908
- Klas Pontus Arnoldson, Sweden, am sefydlu'r Swedish Peace and Arbitration League a
- Fredrik Bajer, Denmarc, arlywydd mygedol y Permanent International Peace Bureau
- 1909
- Auguste Marie Francois Beernaert Gwlad Belg aelod y Cour Internationale d'Arbitrage a
- Paul Balluet d'Estournelles de Constant, Baron de Constant de Rebecque Ffrainc, am sefydlu a bod yn arlywydd y French parliamentary group for international arbitration ac am sefydlu'r Comité de défense des intérets nationaux et de conciliation internationale
- 1910
- Bureau International Permanent de la Paix, Berne
- 1911
- Tobias Michael Carel Asser, yr Iseldiroedd, am hyfforddi'r International Conferences of Private Law yn yr Hâg a
- Alfred Hermann Fried, Awstria, am sefydlu Die Waffen Nieder
- 1912
- Elihu Root, yr Unol Daleithiau (UDA),
- 1913
- 1914
- Heb ei ddyfarnu oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
- 1915
- Heb ei ddyfarnu oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
- 1916
- Heb ei ddyfarnu oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
- 1917
- Y Groes Goch Ryngwladol, Geneva
- 1918
- Heb ei ddyfarnu oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
- 1919
- Woodrow Wilson, UDA, am sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd
- 1920
- Léon Bourgeois, arlywydd Cyngor y Cynghrair y Cenhedloedd
- 1921
- Hjalmar Branting, Sweden, Prif Weinidog, cynrychiolydd Sweden ar Gyngor Cynghrair y Cenhedloedd
- Christian Lous Lange, Norwy, ysgrifennydd cyffredin yr Inter-Parliamentary Union
- 1922
- Fridtjof Nansen, Norwy, cynrychiolydd Norwy ar Gynghrair y Cenhedloedd ac am greu Pasbort Nansen i ffoaduriaid.
- 1923
- Heb ei ddyfernir
- 1924
- Heb ei ddyfernir
- 1925
- Syr Austen Chamberlain, DU am Gytundeb Locarno a
- Charles Gates Dawes, UDA, am fod yn gadeirydd yr Allied Reparation Commission ac am greu'r Dawes Plan
- 1926
- 1927
- Ferdinand Buisson, Ffrainc am sefydlu a gweithio fel arlywydd y League for Human Rights a
- Ludwig Quidde, yr Almaen, cynrychiolydd i gynadleddau heddwch niferus
- 1928
- Heb ei ddyfernir
- 1929
- 1930
- Archesgob Lars Olof Nathan (Jonathan) Söderblom, Sweden, arweinydd y mudiad eciwmenaidd
- 1931
- Jane Addams, UDA, arlywydd rhyngwladol y Women's International League for Peace and Freedom a
- Nicholas Murray Butler, UDA am hyrwyddo'r Briand-Kellogg Pact
- 1932
- Heb ei ddyfernir
- 1933
- Sir Norman Angell (Ralph Lane), DU, llenor, aelod o Bwyllgor Gweithredol Cynghrair y Cenhedloedd a'r National Peace Council
- 1934
- 1935
- Carl von Ossietzky, yr Almaen, newyddiadurwr a heddychwr
- 1936
- Carlos Saavedra Lamas, yr Ariannin, arlywydd Cynghrair y Cenhedloedd a chyfryngwr rhwng Paragwâi a Bolifia
- 1937
- Cecil o Chelwood, am sefydlu a bod yn arlywydd yr International Peace Campaign
- 1938
- 1939
- Heb ei ddyfarnu oherwydd yr Ail Rhyfel Byd
- 1940
- Heb ei ddyfarnu oherwydd yr Ail Rhyfel Byd
- 1941
- Heb ei ddyfarnu oherwydd yr Ail Rhyfel Byd
- 1942
- Heb ei ddyfarnu oherwydd yr Ail Rhyfel Byd
- 1943
- Heb ei ddyfarnu oherwydd yr Ail Rhyfel Byd
- 1944
- Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (gwobrwywyd yn ôl-weithredol ym 1945)
- 1945
- Cordell Hull, UDA am gyd-sefydlu'r Cenhedloedd Unedig
- 1946
- Emily Greene Balch, UDA arlywydd rhyngwladol mygedol y Women's International League for Peace and Freedom a
- John R. Mott, UDA, cadeirydd yr International Missionary Council ac arlywydd y World Alliance of Young Men's Christian Associations
- 1947
- 1948
- Heb ei ddyfernir am nad oedd ymgeisydd fyw oedd un addas (bu farm Gandhi yn India yn ddiweddar)
- 1949
- Lord John Boyd Orr of Brechin, DU, arlywydd y General Food and Agricultural Organization, arlywydd y National Peace Council ac arlywydd y World Union of Peace Organizations
- 1950
- Ralph Bunche am gyfryngu ym Mhalestina (1948).
- 1951
- Léon Jouhaux, Ffrainc, arlywydd yr International Committee of the European Council, is-arlywydd International Confederation of Free Trade Unions, is-arlywydd World Federation of Trade Unions, aelod o ILO Council, dirprwy i'r Cenhedloedd Unedig
- 1952
- Albert Schweitzer, Ffrainc, am sefydlu'r Lambarene Hospital yn Gabon
- 1953
- Ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau George Catlett Marshall am y Marshall Plan
- 1954
- 1955
- Heb ei ddyfernir
- 1956
- Heb ei ddyfernir
- 1957
- Lester B. Pearson, ar y pryd yn Brif Weinidog Canada ac yn arlywydd 7fed sesiwn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig am greu lluoedd heddwch yn ystod Argyfwng Suez.
- 1958
- Georges Pire, Gwlad Belg, arweinydd L'Europe du Coeur au Service du Monde, sefydliad dyngarol ar gyfer ffoaduriaid
- 1959
- Philip Noel-Baker, DU, am ei waith di-flino dros heddwch a chydweithiad rhyngwladol
- 1960
- Albert Lutuli, De Affrica, arlywydd yr ANC (African National Congress)
- 1961
- Dag Hammarskjöld, Sweden, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (ar ôl iddo farw).
- 1962
- Linus Carl Pauling, UDA am ei ymgyrch yn erbyn profion arfau atomig
- 1963
- Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch, Geneva a
- League of Red Cross Societies, Geneva.
- 1964
- Martin Luther King, UDA am ei ymgyrch dros hawliau sifil
- 1965
- 1966
- Heb ei ddyfernir
- 1967
- Heb ei ddyfernir
- 1968
- René Cassin, Ffrainc, arlywydd Llys Ewropeaidd Hawliau Dynol
- 1969
- International Labour Organization (I.L.O.), Geneva.
- 1970
- Norman Borlaug, UDA am ei ymchwyl i'r International Maize and Wheat Improvement Center
- 1971
- Canghellor Willy Brandt, yr Almaen, am Ostpolitik Gorllewin yr Almaen sydd yn dangos agwedd newydd ar gyfer Dwyrain Ewrop a Dwyrain yr Almaen
- 1972
- Heb ei ddyfernir
- 1973
- Ysgrifennydd Gwladol Henry Kissinger, UDA a Gweinidog Tramor Lê Đức Thọ, Fietnam (gwrthododd), am ei waith "for the Vietnam peace accord".
- 1974
- Seán MacBride, Iwerddon, arlywydd yr International Peace Bureau a Chomisiwn Namibia y Cenhedoledd Unedig a
- Eisaku Sato, Siapan, Prif Weinidog
- 1975
- Andrei Dmitrievich Sakharov, Undeb Sofietaidd am ei ymgyrch dros hawliau dynol
- 1976
- Betty Williams a Mairead Corrigan am sefydlu Northern Ireland Peace Movement (newidiwyd ei enw i Community of Peace People yn ddiweddarach)
- 1977
- Amnesty International, Llundain, am ei ymgyrch yn erbyn artaith
- 1978
- Arlywydd Mohamed Anwar Al-Sadat, yr Aifft a Phrif Weinidog Menachem Begin, Israel am drafodaeth heddwch rhwyng yr Aifft ac Israel
- 1979
- Y Fam Teresa, ymgyrchwraig dros ymwybyddiaeth o dlodi (India)
- 1980
- Adolfo Pérez Esquivel, yr Ariannin dros hawliau dynol
- 1981
- 1982
- Alva Myrdal, Sweden a Alfonso García Robles, Mecsico, cynrychiolyddion i General Assembly on Disarmament y Cenhedloedd Unedig
- 1983
- Lech Wałęsa, Gwlad Pwyl, am sefydlu Solidarność a'i ymgyrch dros hawliau dynol; arlywydd cyntaf y wlad ar ôl cwymp Comiwnyddiaeth
- 1984
- Esgob Desmond Tutu, De Affrica, am ei waith yn erbyn Apartheid
- 1985
- 1986
- Elie Wiesel, UDA, llenor, a oroesodd yr Holocost
- 1987
- Óscar Arias Sánchez, Costa Rica, am sefydlu trafodaeth heddwch yn America Canolog
- 1988
- 1989
- Tenzin Gyatso, y pedwerydd Dalai Lama ar ddeg.
- 1990
- Mikhail Gorbachev, Arlywydd yr Undeb Sofietaidd am helpu i ddod â'r Rhyfel Oer i ben
- 1991
- Aung San Suu Kyi, Myanmar, arweinydd gwrthblaid ac ymgyrchydd dros hawliau dynol
- 1992
- Y llenor Rigoberta Menchú, Gwatemala, am ei ymgyrch dros hawliau dynol, yn bennaf i bobloedd cynhenid
- 1993
- Arlywydd Nelson Mandela, De Affrica a'r arlywydd blaenorol Frederik Willem de Klerk, De Affrica, "for their work for the peaceful termination of the apartheid regime, and for laying the foundations for a new democratic South Africa"
- 1994
- Yasser Arafat, Cadeirydd y PLO (Palesteina), Shimon Peres, Gweinidog Tramor Israel a Yitzhak Rabin, Prif Weinidog Israel, am ddiweddu'r Oslo peace accords
- 1995
- Joseph Rotblat, Gwlad Pwyl/DU) a'r Pugwash Conferences on Science and World Affairs am eu hymgyrch yn erbyn arfau niwclear
- 1996
- Carlos Felipe Ximenes Belo, Dwyrain Timor, a José Ramos Horta, Dwyrain Timor, am eu gwaith dros ddatrys y gwrthdaro yn Nwyrain Timor
- 1997
- International Campaign to Ban Landmines (ICBL) a Jody Williams am eu hymgyrch ar gyfer gwahardd a chlirio ffrwdrynnau tir
- 1998
- John Hume, DU a David Trimble, DU, am eu gwaith dros ddatrys y gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon
- 1999
- 2000
- Arlywydd Kim Dae-jung, De Corea am ei waith ar dros ddemocratiaeth a hawliau dyngarol ac yn arbennig am ei ymgyrch ar gyfer perthynas y De gyda Gogledd Corea
- 2001
- Y Cenhedloedd Unedig a'u Ysgrifennydd Cyffredinol, Kofi Annan, Ghana
- 2002
- Jimmy Carter, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau "for his decades of untiring effort to find peaceful solutions to international conflicts, to advance democracy and human rights, and to promote economic and social development"
- 2003
- Shirin Ebadi, Iran, "am ei waith dros hawliau dyngarol a thros democratiaeth."
- 2004
- Wangari Maathai, Cenia, "am ei chyfraniad i ddatblygiad cynaladwyaeth, democratiaeth a heddwch."
- 2005
- Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol a Mohamed ElBaradei, Yr Aifft, "am eu hymdrech i atal ynni niwclear rhag cael ei ddefnyddio at amcanion milwrol, a bod ynni niwclear ar gyfer amcanion heddychlon yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf diogel posibl."
- 2006
- 2007
- Al Gore, cyn-Islywydd yr UDA a'r Intergovernmental Panal on Climate Change o Y Cenhedloedd Unedig
- 2008
- Martti Ahtisaari, cyn-Prif Weinidog y Ffindir
- 2009
- Barack Obama, Arlywydd yr UDA
- 2010
- 2011
- Ellen Johnson Sirleaf, arlywydd Liberia; Leymah Gbowee, Liberia; a Tawakkul Karman, Yemen
- 2012
- 2013
- 2014
- 2015
- 2016
- 2017
- 2018
- 2019
- 2020
- 2021
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyfieithiad o ddetholiad o Ewyllys Alfred Nobel. Adalwyd 25-08-2009