Pashtun

(Ailgyfeiriwyd o Pathan)

Grŵp ethnig yn Affganistan a Pacistan yw'r Pashtun (hefyd Pathan). Dyma'r grŵp ethnig mwyaf yn Affganistan, sy'n byw yn y de a'r dwyrain yn bennaf. Ym Mhacistan mae'r mwyafrif llethol yn byw yn ardal Talaith Ffin y Gogledd-Orllewin a'r Ardaloedd Llwythol dan Weinyddiaeth Ffederal (FATA) gydag eraill i'w cael yn Balochistan hefyd; gorwedd yr ardaloedd hyn yng ngorllewin Pacistan am y ffin ag Affganistan. Pashto yw iaith y mwyafrif, yn famiaith i tua 80% o'r Pashtwniaid; mae eu hieithoedd eraill yn cynnwys Perseg ac, i raddau llai, Wrdw (Pacistan). Mae nifer o'r Pashtun yn cyfeirio at eu tiriogaeth fel Pashtunistan ('Gwlad y Pashtun') ac mae rhai o blaid creu gwlad annibynnol i uno Pashtwniaid ar ddwy ochr y ffin bresennol rhwng Pacistan ac Affganistan, sy'n greadigaeth gymharol ddiweddar. Mae'r mwyafrif llethol yn Fwslemiaid.

Pashtun
Enghraifft o:grŵp ethnig Edit this on Wikidata
Poblogaeth53,000,000 Edit this on Wikidata
Enw brodorolپښتون Edit this on Wikidata
GwladwriaethPacistan, Affganistan, India, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Unol Daleithiau America, Iran, y Deyrnas Unedig, Canada, Maleisia, Rwsia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar ôl goresgyniad Affganistan gan yr Undeb Sofietaidd yn 1979, ymfudodd tua 5 miliwn o ffoaduriaid, Pashtun yn bennaf, i gael lloches ym Mhacistan. Mae rhai wedi dychwelyd ond amcangyfrir fod tua 2 miliwn yn aros yno o hyd.

Mae'r Pashtun yn cynnwys sawl llwyth a thylwyth yn cynnwys:

Pashtun enwog

golygu

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Affganistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bacistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.