Rhan o enw personol yw patronym, sydd wedi ei seilio ar enw'r tad. Matronym yw'r gair a ddefnyddir am enw peronol sydd yn seiliedig ar enw'r fam. Mae'r ddau yn fodd o ddadansoddi llinach. Cyn i cyfenwau ddod yn gyffredin, dim ond un enw oedd gan person, ac felly defnyddiwyd patronym yn answyddogol on aml i wahaniaethu rhwng sawl person gyda'r un enw, neu i egluro eu perthynas neu eu lle yn y gymdeithas. Daeth y patronym yn rhan swyddogol o enw yn ystod yr 1700au.

Mae nifer o gyfenwau Celtaidd, Iberiaidd, Slafaidd, Saesneg, a Sgandinafiaidd yn tarddu o batronymau, e.e. Powell (ap Hywel), Wilson (mab William), Fernández (o Fernando), Carlsson (mab Carl, e.e., Erik Carlsson), Stefanović (mab Stefan, e.g., Vuk Stefanović Karadžić) ac O'Connor (wyr Connor). Mae nifer o ddiwyllianau a ddefnyddwyd y system patronymig i enwi plant, eisoes wedi newid i ddefnyddio'r system sy'n gyffredin erbyn hyn, o gymryd cyfenw'r tad, neu i wrain gymryd enw ei gŵr. Mae defnydd o batronym yn cyn-ddyddio'r defnydd o enwau teuluol mewn nifer o wledydd, ac maent yn dal i gael eu defnyddio yn gyffredin yn Rwsia a Gwlad yr Iâ fel enwau canol, lle ond ychydig iawn o bobl sy'n meddu ar gyfenw yr yn ystyr cyffredin.

Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.